Posts

Showing posts from June, 2010

dod i ddiwedd y daith

Wel tra mod i'n dod i ddiwedd y nhaith i fan hyn ym Mhrifysgol Rio Grande, ma nhaith i gyda f'annwyl chwaer ar fin dechre! Fe waneth Cerith ofyn i fi sgennu crynodeb o'r flwyddyn a'n argraffiade i ro'n i wedi dechre gwneud cyn iddo fe ofyn. Ond ma'r bali peth ar yn laptop marw i yn anffodus. WY'n siwr gaf i amser i'w ailsgwennu os nagoes modd ei adfer e o'r laptop, ond tan hynny, wy ddim am geisio'i ailgreu e. On i wedi sgwennu 2,000 o eirie bron :( Ta beth wy ddim am ddiflannu o'ch sgrinie chi am sbelen fach to. Ewch i flog LliaNoni i ddilyn ein taith ni o dalaith i dalaith. Ma Lli wedi postio ei blogiad cyntaf, so cewch i weld be sy da hi i'w ddweud! Wy'n addo rhoi postiad cloi i'r blog ma yn ddwyieithog pan fydd amser da fi, yn gynt yn hytrach na'n hwyrach gobeithio, so cofiwch jecio nol. Ma'r blog byg wedi cal gafel arnai fyd so wy'n siwr y byddai'n parhau i flogio, ar flog arall masiwr, ond cadwch ych l...

laptop

Wel ma mynd o ddau flogiad yr mis i ddau flogiad yr wythnos yn itha cynydd rili nagyw e! Y rheswm pena yw bod yn laptop bach i wedi marw fi'n crewdu :( Wedi mynd a fe at y bobl cyfrifiaduron ar y campws heddi, a ma da fe 'bad hard-drive' yn ôl y boi. Ma fe am drial cal popeth oddi ar yr hard drive, so gobeithio fyddai ddim wedi colli gormod o sdwff. Ma'r rhan fwyaf o'n lunie i mewn manne erill fyd, sy'n beth da, ond sneb byth ishe colli dim tho nagos! So wy'n aros i weld faint bydd e wedi gallu salvageo erbyn diwedd y dydd, ac yn croesi bysedd!, plis croeswch nhw fyd!!! Hefyd os ych chi am ddiolyn fy anturiaethau i a Gwenllïan drwy'r amerig, ewch i llianoni.blogspot.com

wps

Wel wy ddim wedi neud mor dda yn cadw'r blog lan yn ddiweddar yn anffodus, sori bawb sydd wedi bod yn ishta ar flaene eu sedde'n aros am y postiad nesa!!! Ta beth, fel y'ch chi siwr o fod yn gwbod, y rheswm wy ddim wedi postio yw achos bod dim byd wedi digwydd, NID achos bod cyment yn mynd mlan mod i ffili dala lan da popeth! Wel bydd popeth yn newid cyn bo hir..... Ma Gwenllïan yn cyrradd mewn wyth dwrnod a bydd e'n teithio ni'n dechre pryd ny! Fi ffili aros! Mond 4 dwrnod o sydd da fi ar ôl yn y gwaith, gan bod ni erbyn hyn yn gweithredu ar orie haf y brifysgol, sef 7am tan 5.30pm dydd Llun i ddydd Iau a dyddie Gwener off. Odd hi'n Memorial day ddoe, felly gethon ni benwthnos pedwar dwrnod ac wythnos tri dwrnod wthnos ma! BARGEN!! Wy ddim yn rhagweld lot o flogio rhwng nawr a phryd ny, ond wy'n gobitho alla i addo y byddwn ni'n blogio yn ystod ein mis o deithio o Columbus i New Orleans ac o Austin i LA!!