dod i ddiwedd y daith

Wel tra mod i'n dod i ddiwedd y nhaith i fan hyn ym Mhrifysgol Rio Grande, ma nhaith i gyda f'annwyl chwaer ar fin dechre!

Fe waneth Cerith ofyn i fi sgennu crynodeb o'r flwyddyn a'n argraffiade i ro'n i wedi dechre gwneud cyn iddo fe ofyn. Ond ma'r bali peth ar yn laptop marw i yn anffodus. WY'n siwr gaf i amser i'w ailsgwennu os nagoes modd ei adfer e o'r laptop, ond tan hynny, wy ddim am geisio'i ailgreu e. On i wedi sgwennu 2,000 o eirie bron :(

Ta beth wy ddim am ddiflannu o'ch sgrinie chi am sbelen fach to. Ewch i flog LliaNoni i ddilyn ein taith ni o dalaith i dalaith. Ma Lli wedi postio ei blogiad cyntaf, so cewch i weld be sy da hi i'w ddweud!

Wy'n addo rhoi postiad cloi i'r blog ma yn ddwyieithog pan fydd amser da fi, yn gynt yn hytrach na'n hwyrach gobeithio, so cofiwch jecio nol. Ma'r blog byg wedi cal gafel arnai fyd so wy'n siwr y byddai'n parhau i flogio, ar flog arall masiwr, ond cadwch ych llyged mas bobl, dyw Sioden ddim wedi gadael yr adeilad eto....

Comments

Golwg360.com said…
Shwmae Sioned!

Mae Golwg360.com wedi creu blog, cael ei ddiweddqaru yn ddyddiol, ac wedi gosod linc i dy flog di. Fyddai'n bosib i ti wneud yr un peth nol?

Diolch,

Golwg360.com

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw