wps
Wel wy ddim wedi neud mor dda yn cadw'r blog lan yn ddiweddar yn anffodus, sori bawb sydd wedi bod yn ishta ar flaene eu sedde'n aros am y postiad nesa!!! Ta beth, fel y'ch chi siwr o fod yn gwbod, y rheswm wy ddim wedi postio yw achos bod dim byd wedi digwydd, NID achos bod cyment yn mynd mlan mod i ffili dala lan da popeth! Wel bydd popeth yn newid cyn bo hir.....
Ma Gwenllïan yn cyrradd mewn wyth dwrnod a bydd e'n teithio ni'n dechre pryd ny! Fi ffili aros! Mond 4 dwrnod o sydd da fi ar ôl yn y gwaith, gan bod ni erbyn hyn yn gweithredu ar orie haf y brifysgol, sef 7am tan 5.30pm dydd Llun i ddydd Iau a dyddie Gwener off. Odd hi'n Memorial day ddoe, felly gethon ni benwthnos pedwar dwrnod ac wythnos tri dwrnod wthnos ma! BARGEN!!
Wy ddim yn rhagweld lot o flogio rhwng nawr a phryd ny, ond wy'n gobitho alla i addo y byddwn ni'n blogio yn ystod ein mis o deithio o Columbus i New Orleans ac o Austin i LA!!
Comments