Champhai
Prif ran ein taith i Mizoram oedd cymryd rhan yn y 56th Kristian Thalai Pawl General Conference. Cynhadledd Gristnogol sy'n cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn mewn lleoliade gwahanol ar draws Mizoram. Tebyg i sdeddfod ond yn dwymach a sdim walie ar y pafiliwn! Cwpwl o stodnine rownd yr ochre a'n sicr iawn dim alcohol! Dros y dyddie on ni yn h gynhadledd fe wnaethom ni berfformio tua 8 gwaith (wedi colli cyfri â bod yn onest!). Ro'dd gwasanaethe yn y bore pnawn a nos a fellowship yn dilyn ar ôl y gwasaneth nos - cyfle i fwynhau amryw berfformiade heb fod yn strict fel mewn gwasaneth. Wy ddim am fynd ati i ddisgrifio'r perfformiade gwahanol i chi, ond wy am drial rhoi blas o'r profiad cyffredinol i chi. Ma'r Mizos yn dwlu canu. Ma fe'n rhan annatod o'i gwasanaethe nhw, am hanner awr cyn unrhyw wasaneth bydd na ganu emyne - band neu backing track; person yn galw geirie'r penillion mas fel bo pawb yn gwbo be sy'n mynd mlan (ma nhw'n aml iawn ...