Posts

Diolch 2020

Image
Neithiwr fe es i drwy bob lun dynnes i yn 2020. A waw nath e roi gwên ar yn wyneb i. Er na fydde’r lunie’n golygu bron dim i chi, ma nhw’n atgof o flwyddyn anodd, ond hefyd yn atgofion o ddyddie oedd yn syrpreising o dda. O feddwl nôl dros 2020 wy wedi chwerthin lot lot lot, ac wedi cael amser bythgofiadwy gyda ffrindie sydd wedi dod yn agosach dros y cyfnod. Peidiwch â nghael i’n rong, wy wedi llefen hefyd, mwy nag unrhyw flwyddyn ers iddyn nhw ganslo Wil Cwac Cwac. Ond yn aml iawn ma’r llefen di bod yn lefen hapus, neu’n gathartig, a beth yw’r ots ta beth?! Ma llefen yn neud lles. Ma’r llune yn lot o atgofion da o sgïo dros y flwyddyn newydd da criw da o ffrindie hen a newydd. Eira, golygfeydd grêt, lot o gaws a gwin, a lot o joio.  Eisteddfod Caerdydd!! Cymysgfa o lunie chwe gwlad, gan gynnwys rendition poignant o Sweet Caroline (touching meeeee, touching yooooou), cwpwl o gigs (cofio gigs, waaa), Tylwyth yn y Sherman (!!) a wedyn lockdown. Drwy gydol yr amser fues i’n byw gyda

lefel 4 = lockdown

So pedwaredd ar bymthegfed o Ragfyr, a ni nôl i locdown arall. Sai'n credu bod neb yn synnu rili. Ond fi'n credu bod yr amseru wedi bwrw pobl oddi ar eu hechel. Odd hi'n eitthaf amlwg nad oedd bwytai a siopau'n gwybod ei fod yn digwydd. Ond diolch byth mai nid dyma'r tro cyntaf, wnaeth llawer iawn o sefydliadau lwyddo i aros ar aor yn hwyr neithiwr, neu slioio mewn i têcawe ar gyfer heddi. sydd yn rhywbeth o leiaf. Ond ma hyn wedi bwrw teuluoedd a ffrindiau hyd y oed yn galetach na neb arall. Mae wedi amlygu mai beth sydd wir yn bwysig i bobl yw bod gyda'i gilydd. Gewch chi gadw'ch anrhegion, jest rhowch i fi gwtsh da'r teulu i gyd.  Yn bersonol wy'n cytuno gyda'r cyfyngiade. Ma hi'n argyfyngus mas na. Ond iyffach gols ma fe'n anodd. Ni gyd yn gwbod bod e'n anodd, ac ŷ'n ni gyd am wned y gore o bethe. Fe fydd pethe'n well cyn bo hir. Fe gewn ni weld ein gilydd to. Ac fe gewn ni gwtsh. Os oes na rhywun yn sdryglo ac angen help

Dolig dw dw dw

Helo gyfeillion, Mai di bod yn sbel. Si'n byth yn siŵr beth sy'n yn ysgogi i i sgwennu hwn. Licen i wneud yn fwy aml, ond fi'n ymwybodol nad oes na ddim lot o ddim yn digwydd ar hyn o bryd, so ma rhaid cal rhywbeth i'w weud spos. (ond wy dal ddim yn sicr be fi am weud heddi, so pob lwc os chi'n darllen hwn....) Wy wedi bod yn meddwl lot fawr am y 'dolig leni. Mwy nag arfer? Sai'n siŵr. I fi ma 'dolig yn aml yn dechre mis Medi gydag ymarferion corau gwahanol ar gyfer cyngherdde ac ati. A ma hi'n amhosib peidio fel arfer gan bod siope yn blastio'r gerddorieth i bobman. Leni, sai di rili bod i siop, a sdim hawl da nhw blastio cerddoriaeth chwaith.  Erbyn amser hyn mis Rhagfyr fel arfer base na sawl parti dolig di bod, a nifer di-ri o gyngherddau a chanu carolau ym mhob cornel o Gaerdydd. Fi'n gweld ishe canu shwd gyment, ac yn enwedig amser hyn o'r flwyddyn. Ma cyngherdded Nadolig yn bethe bach itha sbeshal. Nid achos mod i'n berson sy&#

Pryd gewn ni ganu nesaf?

Image
Na'i gyd sy ar y meddwl i ar hyn o bryd yw canu. Ddydd Sul on i'n gwrando ar Robat Arwyn a ddechreuodd e whare côr yn canu un o ddarne Karl Jenkins, a gorffes i droi fe bant ar ôl rhyw bymtheg eiliad achos odd e'n atgoffa fi gyment o'r math o beth fasen ni'n canu yn y côr. Odd e'n mynd i ypseto fi gomod. A falle bod rhai ohonoch chi'n meddwl bod hwna'n pathetic, ond na ni. Fel na ma hi. Fi jest ishe gwbod pryd gewn ni ganu go iawn nesaf. Canu go-iawn fi'n golygu. Dim canu côr rhithiol (sy'n lyfli ac yn lot o hwyl, a ma fe'n wych gweld ffrwyth llafur pawb yn y pen draw), a dim ymarferion dros zoom (sydd ffrancli yn torri  nghalon i ). Canu go iawn. Cystadlu mewn steddfod leol. Cystadlu yn y steddfod gen. Perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Perfformio mewn neuadd bentre chwyslyd. Canu yn y capel. Canu yn y pyb. Canu yn tŷ Rich a Pritch o gwmpas y piano ar ôl sesh. Canu unrhywle ond ar ben yn hunan yn y tŷ. Unrhywle. Unrhywle.

Gwisga dy fasg

So. Co ni nôl yn lockdown. Wel fi yn o leia, a rhan fwya o'r wlad. Ma'n gyfnod anodd ac od. Fi di darllen sawl peth yn ddiweddar am bwyti'r 'six month wall' neu'r 'six month fatigue'. Mae e'n gyffredin pan fod rhywun yn mynd drwy gyfnod fel hyn (unrhyw gyfnod sy'n achosi trawma fel ma hwn yn), i gyrraedd pwynt tua chwe mis mewn lle ma'r awydd i ddianc yn oruwch na dim. Ac yn anffodus allwn ni ddim dianc rhag hwn. Ni wedi cael haf hyfryd i drial dianc chydig bach, ond nawr ma fe nôl i fod yn ful blown. A ma hi'n mynd i fod yn anodd. Ma hi'n barod yn anodd. Ma'r tywydd gachu ma ni'n cael penwthnos ma ac ers wythnos ddim yn hepl o gwbl. Ond ni dal yn gallu cwrdd tu fas (dan gazebos cadarn!), ac mae e'n hynod bwysig ein bod ni dal yn neud. Mae na fusnese bach, tafarndai annibynnol, a bwytai yn mynd i sdryglo dros ycyfnod ma, fel ŷn ni am sdryglo. Fi'n credu bod hi'n bwysig ein bod ni'n eu cefnogi nhw gyment ag y ga

Di-deitl, di-gyfeiriad

Mae di bod dros bythefnos ers i fi flogio ddiwethaf, dros bythefnos ers claddu mamgu. Fi dal yn anghofio weithie ei bod hi wedi mynd. Don ni ddim yn siarad yn aml. Dodd hi byth yn ffonio fi, am ba bynnag reswm, a don i ddim yn ei ffonio hi’n ddigon aml chwaith. Erbyn y diwedd odd hi’n anos ei ffonio hi am sawl rheswm. Am un peth, odd hi mewn cartref gofal a dodd dim ffôn ei hunan gyda hi. Am beth arall, hyd y oed cyn ei bod hi yn y cartref, odd hi’n dechre colli ar ei hun. Felly odd cael sgwrs ddim wastad yn fuddiol iawn. Dim esgus, jest ffeithie. Ni wedi bod draw yn ei thŷ hi yn edrych drwy ei sdwff hi. Ma lot o atgofion yn lot o’r pethe sydd na. Ond oedd hi’n mini hoarder hefyd. Bydde hi’n cadw papur lapio a’i fflatno fe lawr. Ond doedd hi braidd byth yn rhoi anrhegion (oedd well da hi rhoi arian...), felly Duw ŵyr pam ei bod hi’n cadw fe. Ta beth, fi wedi etifeddu rhai o’i llestri amrywiol hi, ac yn edrych mlaen i’w defnyddio nhw a meddwl amdani. Ta beth, erbyn hyn ry’n ni’n de

Claddu yn amser Cofid

So. Ma angladd mamgu fory. Ma hi'n mynd i fod yn anodd am gyment o resymau gwahanol. Am yr holl resyme ma angladde wastad yn anodd. Plys fi'n hollol iwsles da angladde ta beth. Plys dim ond 7 o ni fydd na. Felly fory fyddwm ni'n mynd lawr yr M4 yn gyfreithlon, yn torri'r rheol 5 milltir i fynd i angladd Mamgu. Ond fydd hi ddim yn angladd arferol. Ni'n mynd i dŷ mamgu am wasanaeth breifat - lle fydda i a Ieu a Llill yn canu (Duw yn unig a ŵyr shwd eiff hyn), dyna oedd Mamgu ishe. Ond sai'n credu odd hi'n rhagweld mai dim ond ni'r teulu fase na pan wedodd hi mai dyna oedd hi ishe. Wedyn fyddwn ni'n mynd i'r fynwent. Ac fe fydd na rhai pobl eraill yn cael cwrdd â ni na, ond dim ond achos mai tu fas fyddwn ni. Sai ishe i neb ohonoch chi deimlo'n flin drosto ni, achos ma marwolaeth yn beth naturiol a normal. Yn enwedig i fenyw 94. Ond ma hi jest yn od.  Does dim byd yn normal am angladd yng Nghymru, i fenyw oedd braidd yn siarad Saesneg (S4C drwy&