Posts

Showing posts with the label Mizoram

Aizawl

Image
Ar ôl siwrne ddiddorol iawn  yn y bws melyn o faes awyr lengpui i Aizawl ar hyd hewlydd bach iawn a chul...  ...fe gyrhaeddon ni y Synod Conference Centre lle'r on ni am un noson. Ar ôl gwasneth yn y capel cysylltiedig, gan gynnig perfformiad bach impromptu, bant a ni i gael pryd o fwyd traddodiadol Mizo - reis, daal, cig, tato a cauliflower sbeislyd a salad o lysie amrywiol. Rhywbeth fydden ni'n ei fwyta'n aml IAWN dros yr wythnos nesaf! Ben bore Iau mlaen a ni i'r bws am siwrne oedd fod yn naw awr, gymrodd dros ddeuddeg. Mewn bws. Ar hyd hewlydd bychain bach cul a dwstllyd. Gyda miloedd ar filoedd o berereinion ar y ffordd i gynhadledd gyffredinol y Kristian Thalai Pawl yn Champhai.  Odd y siwrne yn un o'r rhai mwyaf diddorol ac araf erioed. Ar hyd hewlydd odd a mwy o potholes na hewlydd Caerdydd. Gan bod cymaint o draffig odd na adege lle oedden ni ar sdop yn gyfan gwbl, ac wrth gwrs rodd hyn yn gyfle am singsong bach cyflym i basiomr amser! Fe wnaethom ni sdopio...

India?!

Dyw hi dal heb cweit sinco mewn bod ni off i India FORY. Ma'r trefniade i gyd wedi eu gwbeud ar ein rhan ni, a'r cwbl sydd angen i ni wneud yw troi lan i ddal bws am 630 bore fory! Gan bod na gyn lleied o waith wedi bod i ni wneud (a ma hyn yn anarferol i control freak sy'n trefnu popeth fel arfer...), heblaw am ddysgu darne a phacio'n hynod o gall, ma popeth dal yn bach o freuddwyd mewn gwirionedd. Siwr bydd popeth yn dechre cico mewn pan fyddwn ni ar ein ffordd fory!  Ni newydd orffen ein hymarfer olaf cyn mynd a'r cwbl sydd i'w wneud nawr yw neud yn siŵr bod popeth yn y cês a gosod y larwm gyfer y bore!

India!

Ddiwedd y mis bydd criw o ni o gôr CF1 ar ein ffordd i India, yn benodol i ardal Mizoram. Mae fe'i gyd yn dod o berthynas sydd gan y côr gyda chôr a chymuned yn Mizoram, drwy ein harweinydd, Eilir. Ar hyn o bryd ma'r 18 ohonom ni yn mynd drwy'r broses o geisio cael visas i fynd. Hyd yn hyn mae tair ohonom ni wedi cael win gwrthod e-visa (heb unrhyw reswm), ac felly'n gorfod gwneud cais am visa traddodiadol (sy'n costio LOT mwy ac yn annoying dros ben!). Ggan obeithio y bydd awb yn cael caniatâd yn y pen draw byddwn ni'n gadael Heathrow am Kolkota (via Dubai) ar 29 Chwefror am 10 diwrnod o ganu a mwynhau ym mhellteroedd India.  Felly, tan bod bod mwy o ddatblygiade....