Posts

Showing posts with the label Farrah Fawcett

Penwythnos Tri Diwrnod!

Image
Nos Iau gafon ni storm mellt a tharane a gwynt a glaw itha seriys! Odd e’n itha cyffrous a gweud y gwir. Wel on i fod i fynd i bigo ffrwythe bore dydd Gwener – ond dath Evelyn (y landlord) lan yn y bore a gweud bod i siŵr o fod ddim yn syniad da gan i bod hi dal yn wlyb da drad. Ond, dath hi a wye ffres lan i fi! Ma’i mab hi’n byw gyferbyn â ni (nhw sy berchen y llwyni ffrywthe), a ma da nhw dwrci (neu falle dou), ieir, geifr, gwydde a da! Odd y wye yn fach ac yn fowr, yn wyn, brown, glas a gwyrdd – sy’n neud i fi feddwl falle od wye gwydde mewn na falle. Ma hi wedi bod yn ychydig o ddyddie od, bod yn America pan fod Farrah Fawcett yn marw bore dydd Iau o ganser, mond ychydig ddyddie ar ôl cyhoeddi ei bod hi am briodi. A wedyn yn hwyrach y dwrnod na ffindo mas bod Jacko wedi marw – odd e’n itha bisâr, a gallai ddim troi’rteledu na’r radio mlan heb weld rhaglen am y late great King of pop neu glywed cân MJ ar y radio! So ethon ni i bigo bluberries (nawr wy eriod wedi gallu gwitho m...