Posts

Showing posts with the label West Wing

Diwrnod numero dos!

Heb dreulio cymaint o amser yn yr wyl heddi, dim ond popo mewn am bwyti awr. Wedi bod i amryw amgueddfeydd y Smithsonian sydd o gwmpas y mall. Amgueddfa Hirshhorn - Celf modern, arddangosfa lawr llawr am y corff a distortion y corff mewn celf. Odd na lun grêt o Andy Warhol paent olew ar felfed. Yr Ardd Gerfluniau - lot o gerflunie o Ewrop a Gogledd Ameria er 1880. Odd na gerflun gan Rodin The Burghlers of Calais na odd yn rili ddiddorol. Odd y tywydd yn hyfryd ac felly'n rili neis crwydro'r ardd. Dillon Ripley Center - Crochenwaith Lowri Davies a chrochenwyr eraill o Gymru ar ddangos, gyda phlaciau yn Saesneg a Chymraeg ar y wal yn adrodd eu hanes! Castell y Smithsonian - yr amgueddfa wreiddiol. Lot o arddangosfeydd bach yn dangos y gwahanol arddangosfeydd sydd wedi bod yn yr amgueddfeydd. Odd na baun gyda'i holl blu a set o lestr odd yn cael eu defnyddio ar y Concorde. Washington Memorial - jest wâc o'i gwmpas, paratoade ar gyfer Independence Day yn mynd mlan. Ma fai...