Posts

Showing posts with the label bank account

Le Car

Postiad bach cyflym - yr un ola nawr cyn dydd Llun oherwydd y diffyg cysylltiad â'r we yn y fflat. Wedi cael cyfrif banc bore ma yn yr Ohio Valley Bank - sipwyr defnyddiol. Tra'n bo ni yn y banc yn seto popeth lan, daeth y storm mellt a tharanne a glaw a gwynt mwyaf ymêsing! Odd hi'n pistillo'r glaw a chwythu, odd hi'n edrych bwyti 11pm ond mond 9am odd hi!! Ar ôl neud ni, ethon ni via cartref Jeanne i nôl cader i fi gael yn fy swyddfa, a wedyn i weld ambwyti cael trwydded yrru. Yn ôl y fenyw yn y swyddfa wy'n cael bod yn tourist yn gyru yn America am flwyddyn. Ond falle bydd y brifysgol am i fi gael trwydded yrru Ohio. OS y'n nhw'n moyn ni bydd yn rhaid i fi sefyll arholiad ysgrifenedig a chal prawf gyrru. Rili RILI ddim ishe na i ddigwydd!! So ni'n aros nawr i gael clywed wrth rhyw foi yn y Brifysgol os y'n nhw angen i fi gael trwydded yrru Ohio, gan mai ar yswiriant y Brifysgol fydda i. grrrr! OND ma'r car yn cyrradd mewn cwpwl o orie a by...