Posts

Showing posts with the label Caerdydd

Shambles llwyr

Wel ma fe braidd yn crap bo fi heb flogio ers bron i fis, ond wy'n ymddiheurio'n fawr iawn i'r rheiny ohonoch chi sydd wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am y postiad nesa! (ma'r sarcasm yn diferu'n fanna, chi'n gweld e?!) Ta beth, odd bod gytre dros yn dolig yn hollol crap. A on i byth yn credu weden i na. Pidwch a nghamddeall i, nes i rili RILI joio gweld pawb ond odd na sawl cwmwl du dros y cyfan. Nath popeth ddechre, os wy'n cofio'n iawn, pan fu rhaid i fi dalu $50 am jeco'n ail fag mewn, er bo fi'n sicr bod dim rhaid i fi dalu (troi mas dodd dim rhaid i fi dalu, ond ches i byth o'r arian nol, ond NES i gael 4 voucher diod gwerth $7 i'w gwario ar yr awyren odd yn oce da fi!!). Wedyn prynu 3 potelaid o alcohol yn JFK (on i'n hedfan Cincinnati, JFK, Amsterdam, Caerdydd), mewn bag wedi'i selio gan feddwl y bydde popeth yn iawn i fynd a nhw'r holl ffordd trwyddo i Gaerdydd. Wrth fynd i'r gât yn Amsterdam - na don i ddim yn cal...