lefel 4 = lockdown
So pedwaredd ar bymthegfed o Ragfyr, a ni nôl i locdown arall. Sai'n credu bod neb yn synnu rili. Ond fi'n credu bod yr amseru wedi bwrw pobl oddi ar eu hechel. Odd hi'n eitthaf amlwg nad oedd bwytai a siopau'n gwybod ei fod yn digwydd. Ond diolch byth mai nid dyma'r tro cyntaf, wnaeth llawer iawn o sefydliadau lwyddo i aros ar aor yn hwyr neithiwr, neu slioio mewn i têcawe ar gyfer heddi. sydd yn rhywbeth o leiaf. Ond ma hyn wedi bwrw teuluoedd a ffrindiau hyd y oed yn galetach na neb arall. Mae wedi amlygu mai beth sydd wir yn bwysig i bobl yw bod gyda'i gilydd. Gewch chi gadw'ch anrhegion, jest rhowch i fi gwtsh da'r teulu i gyd. Yn bersonol wy'n cytuno gyda'r cyfyngiade. Ma hi'n argyfyngus mas na. Ond iyffach gols ma fe'n anodd. Ni gyd yn gwbod bod e'n anodd, ac ŷ'n ni gyd am wned y gore o bethe. Fe fydd pethe'n well cyn bo hir. Fe gewn ni weld ein gilydd to. Ac fe gewn ni gwtsh. Os oes na rhywun yn sdryglo ac angen help ...