Posts

Showing posts with the label etholiad cyffredinol 2010

Mis i fynd!

Wy ddim yn mynd i sôn dim am yr etholiad diweddar, achos i fod yn onest ma fe'n hynod depresing. Hefyd, sen i'n dechre sôn am bopeth wy ishe gweud, elen i mlan am lot gormod o amser. Dichon yw gweud mod i ddim yn dishgwl mlan at ddod nol i etholeth las, a Chymru lot rhy las i'n nhast i. Gobitho wneiff hyn rhoi cic i'r Cymry i ddechre mynnu mwy o bwere i'r Cynulliad a phleidleisio am bobl sy'n mynd i wneud gwahaniaeth yn y Cynulliad na. Ta beth, mis i heddi bydd Gwenllïan Haf yn cyrradd Cincinnati a bydd ein taith ni o gwmpas y wlad ma'n dechre. Ma dal lot da ni i'w wneud cyn ny, rhaid bwcio car i'w rhentu a phrynnu tocynne tren. Gan na fydd Gwenll yn cal dreifo gan na fydd hi'n 21 nes bod ni'n cyrradd gytre, mond fi bydd yn cla dreifo, felly rhaid odd ailfeddwl peth o'r dreifo, a ni di ffindo llwybr Amtrak fydd yn mynd a ni i lle ni'n moyn mynd, so ma popeth yn gret, jest gwneud y trefniade sydd nawr!!! Llefydd cyntaf ar y rhestr yw N...

Pleidleisio

Wel ma hi'n ddydd Iau, ma hi'n ddiwrnod pleidleisio gytre. Erbyn i fi gyradd gwaith odd y manau pleidleisio wedi bod ar agor ers chwech awr, a byddan nhw'n cau pan fydda i'n cwpla yn y gwaith heno ma. Mam sydd a gofal o mhledlais i, hi yw mhrocsi i. Wy'n credu byddan nhw'n pleidleisio heno ma sen i'n meddwl. Gobitho bo fi di trysto'r person cywir....hah! Licen i'n fawr wylio'r canlyniade'n dod mewn, ond fel ych hi'n gwbod, heb y we gytre, ma hwna'n itha anhebygol. Ond wy'n benderfynnol o aros yn y swyddfa am sbelen fach ar ôl gwaith i gal y teimlad. Falle nai ffindo rhywun sy'n mynd i fod lan drw'r nos ac sy'n fodlon cadw fi yn y lŵp, cawn weled! COFIWCH BLEIDLEISIO! Fi rhy nyrfys i flogio mwy nawr. Mwy wedyn falle.