Posts

Showing posts from October, 2011

Cymru365

So ma'n llun cyntaf i wedi mynd ar y safle. Ac un pawb arall hefyd fi'n credu erbyn hyn. Y rheol yw, un llun y dydd, wedi'i dynnu ar y diwrnod hwnnw. Dim thema, dim amser penodol i bostio, jest un llun. Rhaid i fi fod yn onest, dynnes i ddim lot o lunie heddi i ddewis y gore, ond fe fuodd y peth ar yn meddwl i itha lot o'r dwrnod. Ac o ganlyniad wy'n siŵr mod i wedi cael ysbrydoliaeth ar gyfer sawl llun posibl arall. Sai'n siŵr am 364 arall gwahanol ac amrywiol cofiwch, ond na ni, sdim ishe dodi'r cart o flan y ceffyl. Y peth gyda fi ar hyn o bryd yw mae'r camera gore sy da fi yw'n iPhone. Ma fe'n well na nghamera digidol 'run of the mill i' ac ma na apps arno fe i greu effeithie diddorol a bach yn wahanol i bob llun. So am nawr, yr iPhone fydd hi! Wy yn gobeithio y gwna i ddatblygu'n sgilie ffotograffig i dros y flwyddyn, ma fe'n rhywbeth wy wedi bod ishe gwneud ers sbel. On i wedi meddwl cymryd cwrs, ond wrth gwrs wy erioe

llun y dydd...

Yn dilyn sgwrs ar twitter wythnos diwethaf, wy'n mynd i drial cymryd rhan mewn project o dynnu un llun y dydd am flwyddyn , gan ddechre fory. Ma na griw o ni'n mynd i fod yn cyfrannu i'r wefan cymru365.posterous.com Ar hyn o bryd wy'n cael trafferth mawr yn postio i'r safle so wy'n gobeithio y bydda i'n gallu sortio fe mas cyn dechre fory! Ma'r postiad ma yn rybudd y bydda i'n blogio yn fwy rheolaidd gobeithio yn y flwyddyn sydd i ddod wrth i fi drial ffindo testunau ac ysbrydoliaeth. iddi

Hon

Am ryw reswm, ar noswyl Gêm fwy Cymru i fi erioed ei gweld, ma 'Hon' gan TH Parry Williams di bod yn mynd tr mhen i. Dim syniad pam, ond co hi i chi HON Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn, Ac yn dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn. A phwy sy’n trigo’n y fangre, dwedwch i mi. Dim ond gwehilion o boblach? Peidiwch, da chwi  chlegar am uned a chenedl a gwlad o hyd; Mae digon o’r rhain, heb Gymru, i’w cael yn y byd. Rwyf wedi alaru ers talm ar glywed grwn Y Cymry bondigrybwyll, yn cadw swn. Mi af am dro, i osgoi eu lleferydd a’i llên, Yn ôl i’m cynefin gynt, a’m dychymyg yn drên. A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll Ymhell o gyffro geiriau’r eithafwyr oll. Dyma’r Wyddfa a’i chriw; dyma lymder a moelni’r tir; Dyma’r llyn a’r afon a’r clogwyn; ac, ar fy ngwir, Dacw’r ty lle’m ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne’ Mae lleisiau a drychiolae