Posts

Showing posts with the label Sgïo

rhwng dau wylie!

Image
Os ych chi wedi bod yn dal y'ch anadl yn aros i fi flogio ar ôl dod nol o Sgïo ac yn poeni mod i heb wneud rol dychwelyd ac yn meddwl "o na ma hi wedi cal niwed mowr"....Worry no more ffrinidiau, wy wedi cyrradd nol yn saff! A hynny heb gwympo unwaith (sai'n siŵr shwd nes i fanijo na, ond na ni!). Nai ddechre da'r gwesty - Stowe Mountain Lodge . (Llun ohono o'r tu fas wedi'i oleuo). Cystal, os nad gwell na'r wefan. Bar a bwyty hyfryd (os braidd yn ddrud), diodydd blasus dros ben - cwrws lleol hyfryd a choctêls amrywiol a blasus iawn. Bwyd hyfryd bob noson, ta ble on ni, yn enwedig Lamb Gnocci y noson gyntaf ym mwyty Solstice yn y Gwesty, a Veal y noson olaf yn y Cottage, jest ar bwys y gwesty. Digon am y bwyd, at y sgïo. Wel odd e'n real eira'r gwanwyn. Lot o slwsh, twym i sgïo a sawl sawl sawl cawod o law yn anffodus. Wedi gwario LOT o arian ar basys ar gyfer y liffts (mwy na warion ni'n heiro sgïs) am 6 dwrnod, nethon ni sgïo 5 dwrnod. N...

Bant a fi!

Wel co ni te, ma'r dwrnod di dod - SGÏO!!!! shoop shoop shoop! Wedi siarad gyda Mam bore ma, on nhw ar fin mynd ar yr awyren yn Amsterdam i hedfan i Boston. Fi yn gwaith drw'r dydd, dim i'w wneud braidd, wedyn off a fi lan i Columbus heno i hedfan i gwrdda nhw yn Boston fory! Fel ych chi siŵr o fod wedi dyfalu - wy'n rili egseitid! hah! Ac ar ben y cyfan oll, wedi i fi ddod nol, mond jest dros wythnos fydd nes bo fi'n mynd i Efrog Newydd, bargen!! Nes i neud pice ar y mân nithwr ar gyfer y daith fory (gyrru o Boston i Stowe). a wy di cal unbore ma a ma nhw'n siwpyr blasus!! DIshgwl mlan i fyta mwy nawr!! Ar y daith fory byddwn ni'n pasio hebio Salem, so wy'n credu falle dylsen ni sdopo na, jest so say we did like! joio Di mwy i'w weud nawr, ond hwyl fawr. Falle nai gadw chi'n ypdetid via twitter.com/sioden so cadwch lygad! otherwise, welai chi'r ochr draw yn saff a dal mewn un pishyn gobitho. a plaster cast is NOT the attire of choice in NYC...