Posts

Showing posts with the label daleks

Dr Who

On i'n meddwl weden i rhwbeth am y Dr Who newydd, ond ddim fel rhan o unrhyw bostiad arall. Wy wedi bod bach yn rhy glyfar ac wedi llwyddo i lwytho'r rhaglenni o BBC iPlayer a'u gwylio nhw ar fy nghluniadur bach i. So wy'n lico'r doctor newydd. Fel wy'n siwr bod lot o chi'n gwbod, all neb weud gair croes am David Tennant wrtha i, a wy'n dal i gredu mai fe yw yr ULTIMATE doctor, ond wy'n bles iawn da Matt Smith. Fi'n credu bod e'n neu joben wych a wy'n lico'i bortread e o'r doctor. Ond dyw'r straeon ddim *cweit* cystal â rhai Russell T. Davies. Dyn nhw jest ddim na. Ond wy'n joio. Wy ddim mor wael a Mam sy'n gytid bod hi braidd yn mwynhau nhw o gwbl, am ryw reswm wy'n gallu dishgwl heibio'r idealism sy'n diferu o'r straeon...falle achos mod i di bod yn byw yn Ohio am bron i flwyddyn yn gwylio teledu crap Americanaidd, sai'n siŵr. Falle bod gormod o newid wedi dod ar yr un pryd. Doctor newydd, cymar ...