Posts

Showing posts with the label India

Kolkota

Image
AM BROFIAD. So, rewind nol i gyrradd Heathrow fore Llun i wybod fod e'n flight am fod 85 munud yn hwyr, sef faint o amser oedd am fod gyda ni o layover yn Dubai. Lwcus llwyddwyd ein cael ni gyd ar flight Qantas, oedd yn gadel awr a hanner yn gynt na'n flight wreiddiol. Queue 19 o ni'n ryshan drwy Heathrow. Gallen ni ddim bod wedi gofyn am flight gwell! Attendants hyfryd a dwy sedd yr un os on ni ishe!  Teg dweud bod y flight mlaen i Galcutta ddim hanner cystal.  Llawn dros ben ac oer!  Ta waeth, wedi cyrraedd Kolkota, cwbwl oedd i'w wneud oedd dal tacsi. Dyna oedd profiad. Pedwar (gan gynnwys oleia un dyn gydag unrhyw ferch) a chesys mewn tacsi bach am beth odd fod siwrne awr i'r gwesty. Not so ar gyfer ein tacsi bach ni. Gymrodd hi bron i ddwyawr i Rhydian, Osian, Llio a finne i gyrradd y gwesty. Odd y boi tacsi ar goll. Gyrhaeddon ni yn y pen draw ar ôl lot o holi pobl leol a'r pedwar o ni'n poeni fwyfwy!  Wedyn rodd hi'n amser i 19 o Gymry blinedig fy...

India?!

Dyw hi dal heb cweit sinco mewn bod ni off i India FORY. Ma'r trefniade i gyd wedi eu gwbeud ar ein rhan ni, a'r cwbl sydd angen i ni wneud yw troi lan i ddal bws am 630 bore fory! Gan bod na gyn lleied o waith wedi bod i ni wneud (a ma hyn yn anarferol i control freak sy'n trefnu popeth fel arfer...), heblaw am ddysgu darne a phacio'n hynod o gall, ma popeth dal yn bach o freuddwyd mewn gwirionedd. Siwr bydd popeth yn dechre cico mewn pan fyddwn ni ar ein ffordd fory!  Ni newydd orffen ein hymarfer olaf cyn mynd a'r cwbl sydd i'w wneud nawr yw neud yn siŵr bod popeth yn y cês a gosod y larwm gyfer y bore!

India!

Ddiwedd y mis bydd criw o ni o gôr CF1 ar ein ffordd i India, yn benodol i ardal Mizoram. Mae fe'i gyd yn dod o berthynas sydd gan y côr gyda chôr a chymuned yn Mizoram, drwy ein harweinydd, Eilir. Ar hyn o bryd ma'r 18 ohonom ni yn mynd drwy'r broses o geisio cael visas i fynd. Hyd yn hyn mae tair ohonom ni wedi cael win gwrthod e-visa (heb unrhyw reswm), ac felly'n gorfod gwneud cais am visa traddodiadol (sy'n costio LOT mwy ac yn annoying dros ben!). Ggan obeithio y bydd awb yn cael caniatâd yn y pen draw byddwn ni'n gadael Heathrow am Kolkota (via Dubai) ar 29 Chwefror am 10 diwrnod o ganu a mwynhau ym mhellteroedd India.  Felly, tan bod bod mwy o ddatblygiade....