Posts

Showing posts with the label canu

Pryd gewn ni ganu nesaf?

Image
Na'i gyd sy ar y meddwl i ar hyn o bryd yw canu. Ddydd Sul on i'n gwrando ar Robat Arwyn a ddechreuodd e whare côr yn canu un o ddarne Karl Jenkins, a gorffes i droi fe bant ar ôl rhyw bymtheg eiliad achos odd e'n atgoffa fi gyment o'r math o beth fasen ni'n canu yn y côr. Odd e'n mynd i ypseto fi gomod. A falle bod rhai ohonoch chi'n meddwl bod hwna'n pathetic, ond na ni. Fel na ma hi. Fi jest ishe gwbod pryd gewn ni ganu go iawn nesaf. Canu go-iawn fi'n golygu. Dim canu côr rhithiol (sy'n lyfli ac yn lot o hwyl, a ma fe'n wych gweld ffrwyth llafur pawb yn y pen draw), a dim ymarferion dros zoom (sydd ffrancli yn torri  nghalon i ). Canu go iawn. Cystadlu mewn steddfod leol. Cystadlu yn y steddfod gen. Perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Perfformio mewn neuadd bentre chwyslyd. Canu yn y capel. Canu yn y pyb. Canu yn tŷ Rich a Pritch o gwmpas y piano ar ôl sesh. Canu unrhywle ond ar ben yn hunan yn y tŷ. Unrhywle. Unrhywle.

Champhai

Image
Prif ran ein taith i Mizoram oedd cymryd rhan yn y 56th Kristian Thalai Pawl General Conference. Cynhadledd Gristnogol sy'n cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn mewn lleoliade gwahanol ar draws Mizoram. Tebyg i sdeddfod ond yn dwymach a sdim walie ar y pafiliwn! Cwpwl o stodnine rownd yr ochre a'n sicr iawn dim alcohol!  Dros y dyddie on ni yn h gynhadledd fe wnaethom ni berfformio tua 8 gwaith (wedi colli cyfri â bod yn onest!). Ro'dd gwasanaethe yn y bore pnawn a nos a fellowship yn dilyn ar ôl y gwasaneth nos - cyfle i fwynhau amryw berfformiade heb fod yn strict fel mewn gwasaneth.  Wy ddim am fynd ati i ddisgrifio'r perfformiade gwahanol i chi, ond wy am drial rhoi blas o'r profiad cyffredinol i chi. Ma'r Mizos yn dwlu  canu. Ma fe'n rhan annatod o'i gwasanaethe nhw, am hanner awr cyn unrhyw wasaneth bydd na ganu emyne - band neu backing track; person yn galw geirie'r penillion mas fel bo pawb yn gwbo be sy'n mynd mlan (ma nhw'n aml iawn ...

Aizawl

Image
Ar ôl siwrne ddiddorol iawn  yn y bws melyn o faes awyr lengpui i Aizawl ar hyd hewlydd bach iawn a chul...  ...fe gyrhaeddon ni y Synod Conference Centre lle'r on ni am un noson. Ar ôl gwasneth yn y capel cysylltiedig, gan gynnig perfformiad bach impromptu, bant a ni i gael pryd o fwyd traddodiadol Mizo - reis, daal, cig, tato a cauliflower sbeislyd a salad o lysie amrywiol. Rhywbeth fydden ni'n ei fwyta'n aml IAWN dros yr wythnos nesaf! Ben bore Iau mlaen a ni i'r bws am siwrne oedd fod yn naw awr, gymrodd dros ddeuddeg. Mewn bws. Ar hyd hewlydd bychain bach cul a dwstllyd. Gyda miloedd ar filoedd o berereinion ar y ffordd i gynhadledd gyffredinol y Kristian Thalai Pawl yn Champhai.  Odd y siwrne yn un o'r rhai mwyaf diddorol ac araf erioed. Ar hyd hewlydd odd a mwy o potholes na hewlydd Caerdydd. Gan bod cymaint o draffig odd na adege lle oedden ni ar sdop yn gyfan gwbl, ac wrth gwrs rodd hyn yn gyfle am singsong bach cyflym i basiomr amser! Fe wnaethom ni sdopio...

India?!

Dyw hi dal heb cweit sinco mewn bod ni off i India FORY. Ma'r trefniade i gyd wedi eu gwbeud ar ein rhan ni, a'r cwbl sydd angen i ni wneud yw troi lan i ddal bws am 630 bore fory! Gan bod na gyn lleied o waith wedi bod i ni wneud (a ma hyn yn anarferol i control freak sy'n trefnu popeth fel arfer...), heblaw am ddysgu darne a phacio'n hynod o gall, ma popeth dal yn bach o freuddwyd mewn gwirionedd. Siwr bydd popeth yn dechre cico mewn pan fyddwn ni ar ein ffordd fory!  Ni newydd orffen ein hymarfer olaf cyn mynd a'r cwbl sydd i'w wneud nawr yw neud yn siŵr bod popeth yn y cês a gosod y larwm gyfer y bore!