Posts

Showing posts with the label COVID-19

lefel 4 = lockdown

So pedwaredd ar bymthegfed o Ragfyr, a ni nôl i locdown arall. Sai'n credu bod neb yn synnu rili. Ond fi'n credu bod yr amseru wedi bwrw pobl oddi ar eu hechel. Odd hi'n eitthaf amlwg nad oedd bwytai a siopau'n gwybod ei fod yn digwydd. Ond diolch byth mai nid dyma'r tro cyntaf, wnaeth llawer iawn o sefydliadau lwyddo i aros ar aor yn hwyr neithiwr, neu slioio mewn i têcawe ar gyfer heddi. sydd yn rhywbeth o leiaf. Ond ma hyn wedi bwrw teuluoedd a ffrindiau hyd y oed yn galetach na neb arall. Mae wedi amlygu mai beth sydd wir yn bwysig i bobl yw bod gyda'i gilydd. Gewch chi gadw'ch anrhegion, jest rhowch i fi gwtsh da'r teulu i gyd.  Yn bersonol wy'n cytuno gyda'r cyfyngiade. Ma hi'n argyfyngus mas na. Ond iyffach gols ma fe'n anodd. Ni gyd yn gwbod bod e'n anodd, ac ŷ'n ni gyd am wned y gore o bethe. Fe fydd pethe'n well cyn bo hir. Fe gewn ni weld ein gilydd to. Ac fe gewn ni gwtsh. Os oes na rhywun yn sdryglo ac angen help ...

Gwisga dy fasg

So. Co ni nôl yn lockdown. Wel fi yn o leia, a rhan fwya o'r wlad. Ma'n gyfnod anodd ac od. Fi di darllen sawl peth yn ddiweddar am bwyti'r 'six month wall' neu'r 'six month fatigue'. Mae e'n gyffredin pan fod rhywun yn mynd drwy gyfnod fel hyn (unrhyw gyfnod sy'n achosi trawma fel ma hwn yn), i gyrraedd pwynt tua chwe mis mewn lle ma'r awydd i ddianc yn oruwch na dim. Ac yn anffodus allwn ni ddim dianc rhag hwn. Ni wedi cael haf hyfryd i drial dianc chydig bach, ond nawr ma fe nôl i fod yn ful blown. A ma hi'n mynd i fod yn anodd. Ma hi'n barod yn anodd. Ma'r tywydd gachu ma ni'n cael penwthnos ma ac ers wythnos ddim yn hepl o gwbl. Ond ni dal yn gallu cwrdd tu fas (dan gazebos cadarn!), ac mae e'n hynod bwysig ein bod ni dal yn neud. Mae na fusnese bach, tafarndai annibynnol, a bwytai yn mynd i sdryglo dros ycyfnod ma, fel ŷn ni am sdryglo. Fi'n credu bod hi'n bwysig ein bod ni'n eu cefnogi nhw gyment ag y ga...

Di-deitl, di-gyfeiriad

Mae di bod dros bythefnos ers i fi flogio ddiwethaf, dros bythefnos ers claddu mamgu. Fi dal yn anghofio weithie ei bod hi wedi mynd. Don ni ddim yn siarad yn aml. Dodd hi byth yn ffonio fi, am ba bynnag reswm, a don i ddim yn ei ffonio hi’n ddigon aml chwaith. Erbyn y diwedd odd hi’n anos ei ffonio hi am sawl rheswm. Am un peth, odd hi mewn cartref gofal a dodd dim ffôn ei hunan gyda hi. Am beth arall, hyd y oed cyn ei bod hi yn y cartref, odd hi’n dechre colli ar ei hun. Felly odd cael sgwrs ddim wastad yn fuddiol iawn. Dim esgus, jest ffeithie. Ni wedi bod draw yn ei thŷ hi yn edrych drwy ei sdwff hi. Ma lot o atgofion yn lot o’r pethe sydd na. Ond oedd hi’n mini hoarder hefyd. Bydde hi’n cadw papur lapio a’i fflatno fe lawr. Ond doedd hi braidd byth yn rhoi anrhegion (oedd well da hi rhoi arian...), felly Duw ŵyr pam ei bod hi’n cadw fe. Ta beth, fi wedi etifeddu rhai o’i llestri amrywiol hi, ac yn edrych mlaen i’w defnyddio nhw a meddwl amdani. Ta beth, erbyn hyn ry’n ni’n de...

Back to the surdough

SO!! Ma'r starter yn dod yn ei flaen yn rili dda erbyn hyn. Wedi cael ei drydydd bwydad heddi. Un arall for a drennydd, ac fe fydd e'n barod i bobi torth neu ddwy arall gobeithio!! Ar ôl methu'r tro cynta (a'r troeon eraill wy di trial yn y gorffennol), wyn gobeithio wneiff hwn weithio. Gan gofio wrth gwrs mai gwreiddyn y starter yma yw'r starter ddechreuais i ddechre'r lockdown, so dyw e ddim yn hollol newydd! Fi wedi bod yn gwrando ar lot o bodcasts ac ati'n ddiweddar, ac felly on i'n meddwl falle y basen i'n rhoi chydig o argymhellion os oes na bobl ishe. Er gwybodaeth yr ap wy'n ddefnyddio ar gyfer podcasts yw overcast . Y peth wy'n lico fwyaf amdano fe yw bod modd creu 'playlists' o bodcasts. Felly bob tro mae na rifyn newydd yn dod mas, mae'n mynd i ddiwedd y playlist o bodcasts. Felly os wyt ti'n gwrando ar nifer o bodcasts gwahanol, mae modd cadw i wrando ar y llif heb fyd o bodcast i bodcast. Yn ogystal, un person sy...

Am faint neiff hyn bara?

Heb flogio ers sbelen fach nawr, Oedd e'n teimlo braidd yn od sgwennu jest er mwyn sgwennu. Odd teimlo bach fel dyddiadur, a sneb rili  ishe darllen dyddiadur rhywun arall na? Wel erbyn hyn ne wedi bod ar lockdwn ers dros dair wythnos, sy'n golygu mod i wedi bod yn byw yn y cartws da mam a dad ers dros dair wythnos..... Ma tair wythnos arall o leiaf gyda ni i fynd fel hyn, a siwr o fod mai fan hyn fydda i. Wy'n teimlo'n lwcus iawn bod cwmni da fi, a ma mam a dad yn gweud bod nhw'n hapus bo fi ma... am nawr! Un peth wy'n credu sy'n cadw ni'n tri i fynd, yw bwyd a byta. Ni'n byta pryd o fwyd deche bob nos, a hyd yn hyn, heb rili gael yr un peth fwy nag un noson. Peth arall sy'n cadw fi fynd yw cadw lan gyda ffrindie, a gyda'r corau. Rhaid i fi fod yn hollol onest, wy'n gweld ishe canu yn fawr iawn. Fi'n canu i'n hunan pan wy'n gallu, ond does dim i guro cydganu mewn côr. Fe wnaeth Côr CF1 baratoi perfformiad rhithiol i un o...

Out like a lamb

Ys dywed y Sais, in like a lion out like a lamb. Sai'n credu bod na'n berthnasol nac yn briodol i mis Mawrth ma. Sdim UN PETH alle wedi digwydd ddechre'r mis galle fod wedi raglweld bod diwedd mis Mawrth fel hyn. Wy ddim am honni mod i'n hen iawn (er mod i'n teimlo felly weithie), nac yn un sydd â phrofiad oes. Ond alla i ddim cofio cyfnod fel hyn o'r blaen. Ond eto erbyn hyn ma'n teimlo'n hollol normal, er mor hollol abnormal ar yr un pryd. Os wyr'n hollol onest, sdim celm be ddylsen i sgwennu yn y blo ma o nawr mlaen. Mae'n teimlo'n ddiangen sgwennu beth sy'ndigwydd yn y newyddion, gan bod digon o gofnod o hwnw. Mae'n teimlo'n overindulgent sgwennu nheimlade, er ma'n siŵr ma dyna sydd yn fwyaf naturiol yn y pen draw. Felly am nawr rhyw hanner a hanner. Ni wythnos mewn i'r forced lockdown. Fi gyda mam a dad, ac yn lwcus iawn. Ma bywyd yn weird ac yn anodd, Ma bywyd yn cylchdroi o gwmpas bwyd - ni'n cynllunio pob p...

Diwrnod 3 - drama cwîn

Os fi'n onest (a fi'n lico meddwl bo fi'n ot o bethe, ond sai'n credu ffeindi di unrhywun wedith bod fi ddim yn onest), odd heddi'n fflipin anodd. Sai di teimlo anobaith fel heddi erioed o'r blân. Nai fod yn onest to, sai di llefen cyment â heddi mewn dwrnod eriod, hyd yn oed mewn angladd. Odd hi'nanodd, ac i fi doedd dim ffordd rownd hyn. Ddechreues i'n gynnar yn y gwaith, a ath e'n wath o fana. Dreulies i'r dwrnod yn cyfieithu am y coronafirws, and it got to me. Odd e'n anodd, a na'i gyd odd raid fi neud odd darllen amdano. Allwch chi ddychygu beth fase fe fel i actiwali delio da fe?! Felly fi di neud penderfyniad. Fi a roi hysbysebion ar y blog ma, a bydd unrhyw arian wy'n codi o hwna yn mynd i gefnogi staff yr NHS yn lleol rywffordd. Nai ffigro'r manylion mas to. Cwbl wy'n gwbod yw, os ni'n llefen, ma nhw'n llefen, a ma nhw'n gweld gyment mwy o crap na ni. Ta beth, ma'r surdoes a fi wedi mudo  milltir i...

Diwrnod 2 - all the feels

Wel odd heddi'n bach o bopeth. Y teimlade na o fod ddim yn gallu helpu ac o ddim yn gwybod beth sy'n mynd mlaen. Ma bron pawb wy'n siarad gyda nhw'n teimlo fel hyn, ac mae e'n aml yn arwain at ddeigryn neu ddau. Ma hwna'n normal. Ma hefyd peidio llefen yn normal. Ma popeth yn normal ar hyn o bryd, achob bod popeth mor ben-i-waered. Ta beth, sai di cyffro o'r tŷ heddi. Felly o nawr mlan wy am eud yn siŵr mod i'n cael wâc bob dydd, hyd yn oed os jest rownd y bloc, ond yn ddelfrydol mwy. Dyw aros yn y tŷ ddim yn dda ar gymint o lefelau. Uchwafbwynt y dydd heddi'n sicr oedd cael cinio da'r go-girls (aka Merched y Waw) dros Skype. Chawson ni ddim sgwrs, odd gormod o ni na, ond odd e mor hyfryd gweld y ffrindie a'u plant. Nethon ni dreulio hanner yr amser yn chwerthin achos bod ni methu clywed dwy ohonyn nhw. Pethe bach. Reit ma'r starter wedi'i fwydo, a ma'n ail goctêl yn aros amdanai. Tan fory, byddwch yn neis i'ch gil...

Diwrnod 1 - surdoes, cwis a rhith-dafarn

Image
Diwrnod 1, done. Dim gormod o drafferth personol i weithio adref. Fi wedi gwneud yn y gorffennol am ddydd neu ddau. Ond gan bod hwn am fod yn gyfnod itha estyniedig, nes i benderfynnu bod *bach* yn fwy trefnus a setio rhyw fath o swyddfa lan wrth y ford fwyta. A gwneud iddo edrych a theimlo'n neis, sy wastad yn help i weithio. Tra bod eraill wedi bod yn sdocio la ar bapur tŷ bach a phasta, fues i'n sdocio lan ar gennin pedr (a gwin). Wedes i bod fi ddim yn mynd i roi ffeithie fan hyn, ond wy'n mynd i gynnwys rhai. Cyhoeddwyd bod ysgolion Cymru i gyd am gau dydd Gwener heddi. Ac wedyn na fyddai arholiadau TGAU na lefel A yn mynd i'w cynnal leni. Yn bersonol wy'n credu bod hyn yn dangos pa mor difrifol ma pobl yn wirioneddol meddwl gall hyn fynd. Os felly pam aros nes nawr i ganslo pethe...? Pethe eraill wedi eu canslo heddi - Tafwyl, gŵyl fach y Fro a Glastonbur (mewn trefn pwysigrwydd), a thunnell o bethau eraill ma'n siŵr. Wedi treulio lot o'r diwrnod y...

Not quite quarantine

Wel, so dyma ni. Ma hi'n amser bach od, sneb cweit yn siŵr beth sydd wedi digwydd, beth sydd yn digwydd na beth sy'n mynd i ddigwydd. O fory (18 Mawrth) fe fydda i'n gweithio o adre am y cyfnod sydd i ddod. A wy'n gwybod bod nifer fawr iawn iawn eraill yn yr un sefyllfa. Fi'n mynd i gadw'r blog ma fel cofnod personol o beth sy'n digwydd. Fydd e ddim yn groundbreaking nac yn arloesol. Ond jest cofnod o beth sy'n mynd mlaen o ddydd i ddydd. Fi wedi ei chael hi'n anodd y cwpwl o ddyddied diwethaf ma, oedd neithiwr yn serious low point. Ond diolch i Dduw ma da fi ffrindie da a chall a hyfryd. Mae na lot o wybodaeth mas na, lot ohono'n anwir neu'n anghywir. A lot o gynnwys cywir a defnyddiol. A kot mwy hefyd eto fyth sy'n mynd i fod yn ddefnyddiol pan fyddwn ni i gyd ar lockdown! Am nawr y cwbwl defnyddiol sda fi i weud, yw cariwch mlaen i siarad da'ch ffrindie a'ch teuluoedd amdano a golchwch eich dwylo. Cariwch mlaen i wrando a...