Out like a lamb

Ys dywed y Sais, in like a lion out like a lamb. Sai'n credu bod na'n berthnasol nac yn briodol i mis Mawrth ma. Sdim UN PETH alle wedi digwydd ddechre'r mis galle fod wedi raglweld bod diwedd mis Mawrth fel hyn.

Wy ddim am honni mod i'n hen iawn (er mod i'n teimlo felly weithie), nac yn un sydd â phrofiad oes. Ond alla i ddim cofio cyfnod fel hyn o'r blaen. Ond eto erbyn hyn ma'n teimlo'n hollol normal, er mor hollol abnormal ar yr un pryd.

Os wyr'n hollol onest, sdim celm be ddylsen i sgwennu yn y blo ma o nawr mlaen. Mae'n teimlo'n ddiangen sgwennu beth sy'ndigwydd yn y newyddion, gan bod digon o gofnod o hwnw. Mae'n teimlo'n overindulgent sgwennu nheimlade, er ma'n siŵr ma dyna sydd yn fwyaf naturiol yn y pen draw. Felly am nawr rhyw hanner a hanner. Ni wythnos mewn i'r forced lockdown. Fi gyda mam a dad, ac yn lwcus iawn. Ma bywyd yn weird ac yn anodd, Ma bywyd yn cylchdroi o gwmpas bwyd - ni'n cynllunio pob pryd bron i'r manylyn lleiaf. Ni'n yfed bob dydd - ond dim i ormodedd, a ma na'n oc, am nawr.

Fi di pobi a choginio bob dydd, a ma fe'n neud fi'n hapus. Fi'n gobeithio bod na rhybweth yn ystod hyn sy'n eich cadw chi'n hapus, bo hynny'n bobi neu'n goginio neu'n arlunio neu unrhywbeth arall. Mae jest yn bwysig bod chi'n cael eich hunan drwyddo, beth bynag sy'n neud na.

Byddwch yn lân ac yn saff ac yn bwysicach, byddwch y hapus, beth bynnag sy'n neud chi'n hapus :)

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw