Diolch GIG - 26 Mawrth 2020

Ma hi'n itha amlwg erbyn hyn bod pob diwrnod yn mynd i lifo i'r nesaf. Felly fi wedi rhoi lan rhifo'r dyddie. A dyw na ddim rili yn helpu!

Ma hi'n ddydd Iau, a ma hi dal yn braf, diolch byth. Os wy ddim wedi sôn, wy yn nhŷ mam a dad yn yr Eglwysnewydd. Ma fe er lles fy iechyd meddwl i, a gan bod fi'n gallu. Ma fe'n golygu bod gyda fi gwmni Casi'r ci, sy'n donic dyddiol, os bach yn iapi yn ddiweddar. Os chi'n meddwl nad yw cŵn yn gallu synhwyro beth sy'n mynd mlaen, chi'n rong. Ma hi wedi bod jest bach yn wahanol yn ddiweddar, ac yn sicr bod na rhywbeth gwahanol yn mynd mlaen.

Felly y peth pwysig am flogio heno yw i gofio bod ni wedi bod yn cymeradwyo'r GIG heddiw am 8pm. Odd nneges wedi mynd o gwmpas cyfryngau cymdeithasol i annog pobl mas i'r strydoedd os on nhw'n gallu i gymeradwyo a gweiddio diolch i'r GIG. A dyna nethon ni. Odd e'n lyfli ac yn emosiynol iawn. A ma gweld fideos o bobman arall wedi tynnu pawb at ei gilydd mewn ffordd. Odd hi'n hyfryd gweld fidios pawb o bobman yn cymeradwyo ac yn cheerio. Fydden ni ddim yn UNMAN heb ein nyrsys a'n doctoried, pawb y'n gweithio i'r GIG a phawb arall sy'n gweithio i'n helpu ni drwy'r gyflafan ma sy'n banedmig. chi'n EPIG.

Tan y tro nesa. Cadwch yn gall.

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw