I Miriam a Daisy

Ni gyd yn gwbod bod y cyfnod ma yn anodd i bawb. Ac un o rinweddau’r holl bandemig ma yw bod pobl yn mynd yn dost ac yn marw. Ac yn anffodus ma bywyd yn mynd yn ei flaen, fel oedd e’n gwneud o’r blaen, ac fel fydd e’n gwneud to. Y gwahaniaeth ar hyn o bryd yw bod popeth yn wahanol, a bod teuluoedd yn ffili bod gyda’i gilydd.

Fis mewn i’r cyfnod cloi ma gaeth fy ail nith ei geni. Miriam Haf Wyn. Chwaer fach i Greta Marged, ail ferch i’n frawd i Ieu a’i wraig Angharad. Mae nhw yn byw yn Llangynnwr, a gweddill ni’r Wyns yn byw yn Nghaerdydd. Achos hyn, dy’n ni ddim wedi cael gweld na chwrdd â Miriam ers iddi gael ei geni dros ddeufis yn ôl. Ni ddim chwaith wedi cael gweld Greta. Dyw hyn ddim yn unigryw i ni fel teulu o bell ffordd. Mae miloedd o Gymry ach glân gloyw wedi eu geni yn ystod y cyfnod hyn, a miloedd mwy o famgus a thadcus, neiniau a theidiau heb gael gweld eu hwyron a’u hwyresau. A ma fe’n fflipin anodd.

Mewn ffordd ma Mam a Dad wedi bod yn lwcus. Lwcus achos eu bod nhw wedi cael gweld Miram a Greta o bell yn eu gardd nhw. Mewn ffordd, achos y rheswm on nhw yn yr ardal oedd i sortio tŷ mamgu gan ei bod hi wedi gorfod mynd i gartref.

Yr un diwrnod a ganwyd Miriam, gafodd mamgu emergency placement mewn i gartref gofal yn Llandybie. A fanno buodd hi nes iddi farw ddoe. Diwrnod olaf Mehefin 2020. Chafodd hi byth gwrdd â’u gor-wyres, ond rodd hi’n gwybod iddi gael ei geni.

Ma’r corona ma’n absoliwt gachu (sori mam). Ni wedi bod yn lwcus. Odd mamgu’n hen, odd hi’n 94. Odd hi wedi cael bywyd da. Chafodd hi ddim o’r feirws. Gorffodd hi ddim dioddef. Alla i ddim dychmygu colli rhywun yn y ycyfnod ma i’r salwch afiach ma. Peidio cael gweld nhw, gwybod cymaint ma nhw’n dioddef, a gorfod eu colli nhw heb weud tara.

Felly ma’r blog ma, gobeithio’n cynnwys dwy haen. Dyma ni, deulu bach sydd wedi croesawu merch fach nad oes neb wedi ei chwrdd am ddeufis. A dyma’r un teulu sydd wedi ffarwelio â’u merch hynnaf heb gael ei gweld am ddeufis. A heb gael gweud hwyl fawr.

Ond mae cyment gwâth na ni. Felly er mwyn Duw. Er mwyn i bobl gael gweld eu hanwyliaid, wnewch chi aros gytre?

I Miriam ac i Daisy?

Comments

Unknown said…
Hyfryd iawn Sioned
Diolch
Anonymous said…
Diolch i ti, a phob cydymdeimlad wrth Caroline a Geraint R
Sian G said…
Cydymdeimladau dwysaf i ti heb anghofio Wyn, Heulwen Ieu a Gwenllian. Meddwl amdanoch chi i gyd. Ti'n iawn, mae'n gyfnod ofnadwy o anodd a mae'r feirws wedi cymryd llawer o bob un ohonom ni. Dwi ond yn falch fod gen i deulu i rannu'r adeg hon achos dwi ddim yn gwybod beth wna i hebddynt.

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw