Posts

Showing posts with the label sgio

dim i'w wneud a lot o gyffro

Image
Wi mor egseitid am fynd i sgïo dydd Gwener, co chi lun o'r ylgfa wrth gerdded nôl o'r slopes un noson a wedyn fi a Llill (fy annwylaf chwaer Y Gwenllïan Haf!) ar lifft sgïo, y ddau yn Les Gets yn 2007. joio! Nes i zumba neithiwr, y tro cyntaf i fi fynd ar nos Lun, a'r tro cyntaf i fi neud dwy noson ar y trot, odd e'n itha anodd ar yn shins i (crimog yw shin yn Gymraeg - who knew?!) So mas am fwyd heno gyda menyw sy'n gwneud y cwrs Cymraeg da fi, ddim yn sicr le ni'n mynd, ond ma fe yn Jackson rhywle!! Wedyn bach o baco a neud yn siŵr bod popeth wedi'i olchi fi ishe mynd da fi! Wy'n credu bod popeth yn lân, wy wedi bod yn itha trefnus whare teg i fi! Dal heb benderfynnu os os angen/os odw i am ddefnyddio'r sdwff gwrth-ddŵr ar yn ddillad newydd i.....Ma nhw o safon uchel so sai'n credu bod ishe. Hefyd sdim rili lle addas i wneud. Ffili neud yn y garej achos bod y furnace na, a ma'r anifeilied yn byw na. so bydde rhaid i fi neud e tu fas wedyn ...

trethi, sgïo a rygbi

Wel ma hi'n ddydd Llun unwaith eto, ac unwaith eto wy yn y gwaith heb ddim byd i'w wneud! Diflas. Ma angen i fi wneud Tax Return, ond wy'n hynod o conffiwsd, a wy'n siŵr ych bod chi i gyd yn cytuno mai nid dydd Llun yw'r diwrnod gore i wneud trethi! So dydd Sadwrn fues i lan yng Ngholumbus yn siopa am ddillad sgï, wel am ffaff. Odd rhestr o bwyti naw mil chwe chant saith deg tri o siope da fi lle falle bydde dillad sgïo. On i wedi ebsotio lot ohonyn nhw dydd Gwener i weld os odd dillad ar ôl da nhw, ac odd lot wedi ateb yn gweud bod braidd dim da nhw rhagor. A na beth odd stori yn y mwyafrif o'r siope es i iddyn nhw. Wel erbyn 5 o'r gloch, on i wedi cal digon ac ishe mynd gytre, rol dreifo rownd Columbus i gyd a wedi bod mewn cannoedd o siope (OK falle on i wedi bod mewn 10), so Aspen Board and Ski odd y siop ola. Odd y siope erill wedi bod yn siope chwaraeon, ac odd hon yn siop sgïo arbennigol (yn amlwg), a lo and behold, odd na bethe na odd yn ffito fi!! ...