Posts

Showing posts with the label chwe gwlad

Eira a dim chwaraeon

Image
Wel, dath yr eira nos Wener a bore dydd sadwrn. Bron i chwe modfedd gyda ni. Erbyn 11am odd yn hewl i wedi clyro ac on i'n meddwl allen i fynd i mewn i'r gwaith i wylio'r gêm. Es i ar hyd yr hewl, ond erbyn cyrradd yr hewl wy'n troi arni i gyrradd y brif hewl, dodd dim hewl i gal. On nhw ddim wedi'i chlyro hi eto. Felly troi nol amdani ac aros yn y tŷ yn aros am dexts gan Ieu a Gwenllïan am y sgôr. On i'n itha balch erbyn diwedd mod i heb allu wocho'r gêm achos bydde hi wedi bod yn hynod o depressing gwylio'r gêm ben yn hunan yn y swddfa a Chyrmu'n colli!! Ta beth, nes i ddim wocho'r Super Bowl chwaith, ond wy'n falch bod y Saints wedi ennill. Ail hanner cyffrous iawn yn ôl y sôn!. Fues i am wac ddydd Sul i dynnu llunie lan yn y fynwent - ma'r llunie i gyd ar Facebook. Ma mwy o eira ar y ffordd da ni heno a fory a thrw dydd Mercher, so ma na bosibilrwydd na fyddai yn y gwaith fory, cawn weled!

Penwthnos o Chwaraeon

Wel ma hi'n benwthnos mawr o chwaraeon penwthnos ma. Ma geme'r chwe gwlad yn dechre ddydd sul (as if you didn't know!!!). Ewch i weld trailer gyda Morgan Freeman fan hyn , ma fe'n HOLLOL wych. Fel ych chi'n siŵr o fod yn gwbod, sdim cysylltiad gyda'r rhyngrwyd gyda fi gytre, ac wy wedi bod yn dod mewn i'r gwaith i wylio geme rygbi yn y gorffennol (oni bai bo fi yn Columbus yn wocho fe yn y dafarn da Huw wrth gwrs!!). Wel ma na storom enfawr wrthi'n symud mewn i'r ardal ar hyn o bryd (gallwch chi weld y tywydd yn yn ardal i fan hyn ), ac wrth gwrs, os bydd hi'n bwrw eira, byddai ffili cyrradd y gwaith, yn anffodus. Ma'r gêm yn cael ei dangos ar BBCAmerica, ond wrht gwrs dyw BBCAmerica ddim da fi!! Gytid. Sooooo, byddai'n pestro pobl i gadw fi'n ypdêtid fia tecst os na byddai'n llu cyrradd y gwaith! grrrrr Reit y peth arall chwaraeon mawr sydd penwthnos ma yw Super Bowl XLIV (44 i chi sydd ddim yn Rhufeiniaid) mlân nos Sul am 7pm E...