Posts

Showing posts with the label New Orleans

bron ar y ffordd

I'r rhai o chi'n sy'n cadw trac ar ddifelopmynts y daith sydd i ddod, ma Gwenllïan a fi wedi bwcio 3 gwesty hyd yn hyn. Dau ar yr atciwal daith ac un yn columbus y noson ma hi'n cyrradd. Ma hi'n hedfan mewn i Cincinnati, ond mond dwyawr yw e o fan na i Golumbus (llai o amser na me'n cymryd i ddod nol i fan hyn), ac felly ry'n ni'n mynd lan na am noson i weled Ms Lowri Sion a champws gwych Ohio State University. yaaa! Y gwestai erill ry'n ni (fi) di bwcio yw yn Memphis a New Orleans. Y ddau wel o fewn ein byjet o $100 y noson, a ma'r un yn N'Orleans reit ar Bourbon Street, bargen! Mond bwcio gwesty Nashville sydd angen nawr cyn i ni adel, a byddwn ni'n SORTed! WOOP WOOP

Y daith

Wel ma pethe'n rili dechre cwmpo mewn i'w llefydd nawr ar gyfer fy nhaith i a Gwenllïan mis nesa! Ni wedi bwcio car o Cincinnati i Denver ac o Sacramento i LA a thocyne tren o Denver i Sacramento. Ma'r daith yn mynd rhywbeth fel hyn . Ond byddwn ni'n dal tren o Denver i Salt lake City, a wedyn o Salt Lake City i Sacramento, ond na'r daith mwy neu lai. Llefydd i aros yw'r gamp nesa. Yn amlwg byddwn ni'n moyn bod y gwestai mor rhad a phosibl, a chan nad oes cyment o hostels yn America ag sydd yn Ewrop, fydd hi ddim yn hawdd ffindo llefydd rhesymol sydd ddim mas ynghnaol unman. Achos, yn amlwg fyddwn ni hefyd am fod yn weddol agos i ganol y draf/ddinas er mwyn blasu cyment o'r naws lleol ag sy'n bosibl. Felly, os os d UNRHYWUN awgrym am ble i gal y 'deals' gore, wy'n gwrando!! Wy'n gwbod bod lastminutetravel.com yn gwneud dels da, a ma na gynllun da hotels.com, lle y'ch chi'n bwcio 10 nosn a chal yr 11eg am ddim, so falle bod hwn...