Posts

Showing posts with the label Hennesseys

Washington - Diwrnod cyntaf yr Wyl

I ddechre nai weud peth am y daith lawr. Saith awr a hanner yn y car gan gynnwys sdopio dwywaith. Amser da iawn sen i'n gwed - bwyti 400 milltir. Ffindo'n ni'r ffordd yn hawdd gyda help google maps a GPS! Bwyd a drinc bach yn y bar ar ôl cyrraedd nithwr wedyn gwely i ymlacio cyn heddi!! Odd hi wedi bwrw glaw yn ofnadw nithwr a ry ffordd felly on i'n creosi bysedd y bydde hi'n braf heddi! Un broblem - wy wedi tynnu lot o lunie, ond wy ddim wedi dod â'r cebl sy'n cysylltu'r camera gyda'r laptop, so bydd rhaid i chi aros nes dydd Mawrth cyn i chi weld llunie (dim gwaith dydd Llun achos Independance Day dydd Sadwrn), ond cadwch lygad!! Odd hi'n braf heddi! Yn ferwedig ond ddim yn rhy glos. Nai roi run through o'r dwrnod i chi, achos os af i mewn i ormod o fanylder byddai ma drw'r nos! Odd y lle'n agor am 11am (popeth am ddim gyda llaw sy'n grêt), ond on ni na bwyti 10.30am yn dishgwl ambwyti. Ar ol cerdded ambwyti tam bach netho...