Posts

Showing posts with the label car

diflastod

Wel sdim lot da fi i wneud ar y funud, mond gwersi Cymraeg. Wy'n joio rheiny'n fawr, ond dy'n nhw ddim yn cymryd lot o'n amser i rili, dim mwy na'r awr wy'n dysgu mewn diwrnod yn anffodus. So wy nol i neud dim byd bob dydd, sy'n mynd ar yn nerfe i rili. Wy'n trial ffindo pethe i'w gwneud, ond unrhyw beth wy yn ffindo, mond rhywbeth bach yw e ta beth!! Dishgwl mlân i ddod nol, ond wedi gweud ny bydd hi yn od iawn dod nol i normalrwydd!! Ma'r gwanwyn yn i anterth, a wy ddim yn credu bydd yr haf yn hir cyn dod. Ma paill ymhobman ma, a wy'n syffran gyda fe, ond ma'r antihistamines yn helpu so sdim pwynt achwyn! Ma'r cynllunie ar gyfer yr haf yn dod yn u blaene'n dda, wedi bwcio gwesty i fi a Gwenllïan yn Cincinnati ar ôl iddi lanio, yn bennaf fel bod hi'n gallu ymarfer gyrru'r car byddwn ni'n rhentu cyn dreifo nol i fan hyn! Ni'n ystyried cal convertible, ddim yn mynd i fod yn lot drytach na'r ceir erill, ac oleia ...

Penwythnos Tri Diwrnod!

Image
Nos Iau gafon ni storm mellt a tharane a gwynt a glaw itha seriys! Odd e’n itha cyffrous a gweud y gwir. Wel on i fod i fynd i bigo ffrwythe bore dydd Gwener – ond dath Evelyn (y landlord) lan yn y bore a gweud bod i siŵr o fod ddim yn syniad da gan i bod hi dal yn wlyb da drad. Ond, dath hi a wye ffres lan i fi! Ma’i mab hi’n byw gyferbyn â ni (nhw sy berchen y llwyni ffrywthe), a ma da nhw dwrci (neu falle dou), ieir, geifr, gwydde a da! Odd y wye yn fach ac yn fowr, yn wyn, brown, glas a gwyrdd – sy’n neud i fi feddwl falle od wye gwydde mewn na falle. Ma hi wedi bod yn ychydig o ddyddie od, bod yn America pan fod Farrah Fawcett yn marw bore dydd Iau o ganser, mond ychydig ddyddie ar ôl cyhoeddi ei bod hi am briodi. A wedyn yn hwyrach y dwrnod na ffindo mas bod Jacko wedi marw – odd e’n itha bisâr, a gallai ddim troi’rteledu na’r radio mlan heb weld rhaglen am y late great King of pop neu glywed cân MJ ar y radio! So ethon ni i bigo bluberries (nawr wy eriod wedi gallu gwitho m...

Le Car

Postiad bach cyflym - yr un ola nawr cyn dydd Llun oherwydd y diffyg cysylltiad â'r we yn y fflat. Wedi cael cyfrif banc bore ma yn yr Ohio Valley Bank - sipwyr defnyddiol. Tra'n bo ni yn y banc yn seto popeth lan, daeth y storm mellt a tharanne a glaw a gwynt mwyaf ymêsing! Odd hi'n pistillo'r glaw a chwythu, odd hi'n edrych bwyti 11pm ond mond 9am odd hi!! Ar ôl neud ni, ethon ni via cartref Jeanne i nôl cader i fi gael yn fy swyddfa, a wedyn i weld ambwyti cael trwydded yrru. Yn ôl y fenyw yn y swyddfa wy'n cael bod yn tourist yn gyru yn America am flwyddyn. Ond falle bydd y brifysgol am i fi gael trwydded yrru Ohio. OS y'n nhw'n moyn ni bydd yn rhaid i fi sefyll arholiad ysgrifenedig a chal prawf gyrru. Rili RILI ddim ishe na i ddigwydd!! So ni'n aros nawr i gael clywed wrth rhyw foi yn y Brifysgol os y'n nhw angen i fi gael trwydded yrru Ohio, gan mai ar yswiriant y Brifysgol fydda i. grrrr! OND ma'r car yn cyrradd mewn cwpwl o orie a by...

Gwaith etc

Wel, wy ar yn drydydd diwrnod yn y gwaith a dal heb wneud braidd dim ond darllen lan am hanes yr ardal ac ymchwilio ar y we. Bach o e-bostio a fêsbwcio, a dechre acownt Flickr. Gobeithio'ch bod chi wedi mwynhau rhai o'r llunie wy newydd ychwnaegu ar y postiad blaenorol. Os y'ch chi am weld mwy o lunie - ewch i www.flickr.com/photos/sioden , neu cadwch lygad ar fêsbwc www.facebook.com/sioden !! Wy dal yn ddi-gar, ond gobeithio i'r nefoedd bydd e wedi sortio erbyn fory neu bydda i'n ddi-gar dros y penwythnos hir (hiihii!!). Toyota wy'n cal wy'n credu, a ma nhw fod i ddelifro fe draw i'r Brifysgol, ond ma dal stwff i sortio mas, a ma pobl yn bod yn araf, fel arfer! Gan bo ni'n gwitho 10 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Iau, bydde penwthnos 3 dwirnod yn y fflat yn ddiflas. Er wy'n gwbod bydd Jeanne yn gwahodd fi draw dros y penwthnos - wy'n twmlo braidd felse fi'n dibynnu lot arni ar hyn o bryd (ma hi'n casglu fi a mynd a fi nol o'r g...