mis Mawrth yn barod!
Wel co ni wedi cyrradd ms Mawrth yn barod! Ma amser yn mynd yn itha cloi nawr! Pythefnos i nawr bydda i a Mam a Dad wedi cyrraedd Stowe Mountain Lodge , a falle hyd yn oed yn cal sgïad fach!! A wedyn pythefnos ar ôl ny, fi a Cerith yn mynd i Efrog Newydd am gwpwl o ddyddie!! Rili egseitid am y ddau beth. Os os da unrhyw un unrhyw tips am Efrog Newydd, lemme have it. Ar hyn o bryd ni wedi trefnu mynd i Lliberty ac Ellis Island ac i weld Avenue Q. Ni'n moyn mynd i weld y Brooklyn bridge a'r sights i gyd. Gadewch goment neu ebostiowch fi gydag awgrymiade o lle i fynd! Prif bwrpas y postiad ma yw hyn: Wy wedi bod yn edrych nol dros fy mlogio ers i fi gyrradd, a wy'n sgwennu llai a llai bob mis, so wy'n mynd i rili trial sgwennu o leiaf ddwywyaith yr wythnos, cyn belled a bod RHYWBETH da fi i weud!! Wy wedi bod mewn dosbarthiade 4th grade (plant 8/9 oed fi'n credu) ysgolion Gallia Local dros yr wythnose diwethaf yn gwneud sesiynau ar Gymru gyda'r plant. Siarad am dre...