Posts

Showing posts with the label Independence Day

O gwmpas DC ar fws

Dihunes i'n itha cynnar heddi bwyti 8am, cyn pawb arall, so odd da fi amser i ymlacio a darllen tamed bach cyn bo ni'n dechre ar ein hantur heddi!! Nethon ni benderfynnu pido mynd i'r wyl a mynd ar open top bus yn lle i weld y ddinas ar i gore. So co ni grynodeb bach o bopeth ethon ni off y bys i'w gweld a rhai pehte nopdweddiadol erill, sdim i'w weud am rhai pethe ond ma na am erill.... Jefferson Memorial Lincoln Memorial - Wedi bod o'r blan ond ru'n mor ymêsing, golygfa wych dros y mall National Portrait Gallery (on i ishe mynd i'r Spy Museum, ond ches i ddim chos odd neb rili moyn dod da fi a odd e'n mynd i fod yn awr o giwio cyn mynd mewn). Odd y llunie i gyd yn wych, llunie o Barack Obama a John McCain (ar wahan ar gyfer gwahanol photoshoots) yn 2004, odd yn rili ddiddorol. Portreadau swyddogol o'r holl arlywyddion odd yn cwl fyd. Welon ni lot fowr o bethe erill o'r bys, a thynnu llunie hyfryd. Gethon ni fwyd mewn bwyty pysgod hyfryd o...

Diwrnod numero dos!

Heb dreulio cymaint o amser yn yr wyl heddi, dim ond popo mewn am bwyti awr. Wedi bod i amryw amgueddfeydd y Smithsonian sydd o gwmpas y mall. Amgueddfa Hirshhorn - Celf modern, arddangosfa lawr llawr am y corff a distortion y corff mewn celf. Odd na lun grêt o Andy Warhol paent olew ar felfed. Yr Ardd Gerfluniau - lot o gerflunie o Ewrop a Gogledd Ameria er 1880. Odd na gerflun gan Rodin The Burghlers of Calais na odd yn rili ddiddorol. Odd y tywydd yn hyfryd ac felly'n rili neis crwydro'r ardd. Dillon Ripley Center - Crochenwaith Lowri Davies a chrochenwyr eraill o Gymru ar ddangos, gyda phlaciau yn Saesneg a Chymraeg ar y wal yn adrodd eu hanes! Castell y Smithsonian - yr amgueddfa wreiddiol. Lot o arddangosfeydd bach yn dangos y gwahanol arddangosfeydd sydd wedi bod yn yr amgueddfeydd. Odd na baun gyda'i holl blu a set o lestr odd yn cael eu defnyddio ar y Concorde. Washington Memorial - jest wâc o'i gwmpas, paratoade ar gyfer Independence Day yn mynd mlan. Ma fai...

Gwaith etc

Wel, wy ar yn drydydd diwrnod yn y gwaith a dal heb wneud braidd dim ond darllen lan am hanes yr ardal ac ymchwilio ar y we. Bach o e-bostio a fêsbwcio, a dechre acownt Flickr. Gobeithio'ch bod chi wedi mwynhau rhai o'r llunie wy newydd ychwnaegu ar y postiad blaenorol. Os y'ch chi am weld mwy o lunie - ewch i www.flickr.com/photos/sioden , neu cadwch lygad ar fêsbwc www.facebook.com/sioden !! Wy dal yn ddi-gar, ond gobeithio i'r nefoedd bydd e wedi sortio erbyn fory neu bydda i'n ddi-gar dros y penwythnos hir (hiihii!!). Toyota wy'n cal wy'n credu, a ma nhw fod i ddelifro fe draw i'r Brifysgol, ond ma dal stwff i sortio mas, a ma pobl yn bod yn araf, fel arfer! Gan bo ni'n gwitho 10 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Iau, bydde penwthnos 3 dwirnod yn y fflat yn ddiflas. Er wy'n gwbod bydd Jeanne yn gwahodd fi draw dros y penwthnos - wy'n twmlo braidd felse fi'n dibynnu lot arni ar hyn o bryd (ma hi'n casglu fi a mynd a fi nol o'r g...