trafnidiaeth gyhoeddus
Oce, so ma unrhywun sy'n yn adnabod i yn gwbod mod i bach o buff trene. Dim buff yn yr ystyr mod i'n gwylio trene ac yn eu hadnabod nhw ayb, ond wy'n teithio ar y trên bron a bod bob dydd. Wy'n teithio i'r gwaith bob dydd ar y trên ac yn aml yn mynd mewn i'r dref neu lawr i'r Bae ar y penwythnos. Fi'n lico meddwl hefyd mod i'n berson itha 'gwyrdd', wnai ddim defnyddio'r car heblaw bod gwir angen (gan bod y trên mor gyfleus, mond 4 munud lawr yr hewl ma'r orsaf), fi'n ailgylchu ac ailddefnyddio ac yn tyfu llysie a ffrwythe yn yr ardd, a flwyddyn nesaf bydd na rhandir hefyd i dyfu mwy o gynnrych. ond ta beht nid pwynt y blogiad hwn yn sôn am pa mor wyrdd ydw i. Y bwriad yw trafod y trene. yn enwedig trennau Arriva Cymru ar y Linellau'r Cymoedd. Ma pris tocyn un ffordd o Landaf i Fae Cardydd yn £2.10 a thocyn dwy ffordd yn £2.90. Yn amlwg fel arfer fi'n mynd i ac yn dod nol o'r gwaith felly bydde tocynh dwy ffordd yn gw...