Posts

Showing posts with the label traveling

ypdêt

Newydd ffindo mas, trwy gyfieithu gwefan Canolfan Madog , mae eglwys annibynnol oedd adeilad Amgueddfa Treftadaeth Cymry America yn arfer bod. On i wedi dyfalu, ond ddim yn gwbod yn iawn. Wedi rhoi dolen i chi fynd i wefan Canolfan Madog, i chi gal gweld beth sy'n mynd mlan ma. Wedi ffindo'r gwesty byddwn ni'n aros ynddo fe yn DC, edrych yn ffab, gyda phwll nofio tu fas a gym a chyfleustere i gysylltu da'r we (jest gobitho bo nhw ddim yn costio!!). Heddi wedi bod yn ddiwrnod hir am ryw reswm - a ma dal awr da fi ar ôl! Yn ôl Google dylse hi gymryd oddeutu 7 awr i ni gyrradd DC sydd ddim yn rhy wael spos. On ni wedi edrych i fynd ar y trên, ond er bod digon o seddi ar y ffordd mas, dodd dim seddi i ddod nol gyda ni! ------- Whilst translating the Madog Center website, I discovered that the Welsh-American Heritage Musem used to be a Congregational Church, which I had guessed at but didn't know for sure! Also click on the link above to go and have a look at the Madog...

Y Daith (English at the bottom)

Image
Wel erbyn hyn wy wedi cyrradd yn saff, ond co hanes y daith i chi..... Dechre trwy hedfan o Gaerdydd am 6am (ar ôl codi am 3.30am) i Amsterdam. Odd da fi ddwyawr yn Amsterdam, a o'n i'n meddwl bydde digon o amser i grwydro o gwmpas, ond wrth gwrs, gan bo fi'n hedfan i America, odd angen checo popeth cyn boardo'r awyren, so dreulies i'r holl amser yn ciwio i fynd ar yr awyren! Odd y flight i Detroit yn hirach na'r arfer yn ôl y sôn (8 awr 20 munud), a nethon ni fwrw turbulence eitha gwael bwyti awr cyn glanio. Wedi glanio yn Detroit ro'dd yn rhaid mynd trwy immigration, a'r rhan gwaetha am hyn odd y ciwio am oesoedd!! Tra'r o'n i'n ciwio daeth na ddyn customs lan ata i i checio'n ffurflenni a thra'i fod e'n checio fe odd e'n holi cwestiyne i fi, a phan wedes i bod na gymdeithas Gymraeg yn Ne Ohio wedodd e "Oh my six year old son loves Fireman Sam in Welsh!", ges i ddim cyfle i holi, ond neis gwbod bod Sam Tân yn lico ...