Posts

Showing posts with the label Daisy

Claddu yn amser Cofid

So. Ma angladd mamgu fory. Ma hi'n mynd i fod yn anodd am gyment o resymau gwahanol. Am yr holl resyme ma angladde wastad yn anodd. Plys fi'n hollol iwsles da angladde ta beth. Plys dim ond 7 o ni fydd na. Felly fory fyddwm ni'n mynd lawr yr M4 yn gyfreithlon, yn torri'r rheol 5 milltir i fynd i angladd Mamgu. Ond fydd hi ddim yn angladd arferol. Ni'n mynd i dŷ mamgu am wasanaeth breifat - lle fydda i a Ieu a Llill yn canu (Duw yn unig a ŵyr shwd eiff hyn), dyna oedd Mamgu ishe. Ond sai'n credu odd hi'n rhagweld mai dim ond ni'r teulu fase na pan wedodd hi mai dyna oedd hi ishe. Wedyn fyddwn ni'n mynd i'r fynwent. Ac fe fydd na rhai pobl eraill yn cael cwrdd â ni na, ond dim ond achos mai tu fas fyddwn ni. Sai ishe i neb ohonoch chi deimlo'n flin drosto ni, achos ma marwolaeth yn beth naturiol a normal. Yn enwedig i fenyw 94. Ond ma hi jest yn od.  Does dim byd yn normal am angladd yng Nghymru, i fenyw oedd braidd yn siarad Saesneg (S4C drwy...

I Miriam a Daisy

Ni gyd yn gwbod bo d y cyfnod ma yn anodd i bawb. Ac un o rinweddau’r holl bandemig ma yw bod pobl yn mynd yn dost ac yn marw. Ac yn anffodus ma bywyd yn mynd yn ei flaen, fel oedd e’n gwneud o’r blaen, ac fel fydd e’n gwneud to. Y gwahaniaeth ar hyn o bryd yw bod popeth yn wahanol, a bod teuluoedd yn ffili bod gyda’i gilydd. Fis mewn i’r cyfnod cloi ma gaeth fy ail nith ei geni. Miriam Haf Wyn. Chwaer fach i Greta Marged, ail ferch i’n frawd i Ieu a’i wraig Angharad. Mae nhw yn byw yn Llangynnwr, a gweddill ni’r Wyns yn byw yn Nghaerdydd. Achos hyn, dy’n ni ddim wedi cael gweld na chwrdd â Miriam ers iddi gael ei geni dros ddeufis yn ôl. Ni ddim chwaith wedi cael gweld Greta. Dyw hyn ddim yn unigryw i ni fel teulu o bell ffordd. Mae miloedd o Gymry ach glân gloyw wedi eu geni yn ystod y cyfnod hyn, a miloedd mwy o famgus a thadcus, neiniau a theidiau heb gael gweld eu hwyron a’u hwyresau. A ma fe’n fflipin anodd. Mewn ffordd ma Mam a Dad wedi bod yn lwcus. Lwcus achos eu bod nhw w...