Posts

Showing posts with the label saffrwm

Amser blogio unwaith eto

Image
Wel co ni'r blode bach cynta i ymddangos yn y patshyn o dyfiant o flaen yn fflat i. Saffrwm pert. Dydd Sadwrn dwetha odd hyn, a wy'n credu bod rhai melyn wedi dechre ymddangos erbyn hyn fyd, ond rownd cornel y tŷ so bydd yn rhaid i fi fynd i ymchwilio! Wy wedi bod yn itha bishi yr wythnos ddiwetha ma. Nes i gynnig helpu Plaid mas, gan mod i'n methu gwneud y canfasio arferol, so wy wedi bod yn cyfieithu iddyn nhw, ac yn teimlo braidd yn hunangyfiawn am y peth! Ha! Na, rili nes i fwynhau gwneud, ac ma'en un ffordd o wybod y polisïau tu fewn tu fas!! Wy hefyd wedi bod yn edrych ar ôl fy Amish Cinamon Bread , neu Friendship Bread . Ma fe'n gwitho fel hyn. Ti'n cal bag ziplock wrth ffrind gyda'r starter ynddo fe. Dros gyfnod o ddeg diwrnod ti'n neud yn siwr bod ti'n gadael yr aer allan o'r bag os os peth yn mynd mewn, ychwanegu fflwr, siwgr a llath iddo fe unwaith ac ar y degfed dwrnod ti'n coginio fe. Nithwr odd y degfed diwrnod. Beth ti'n ne...