Posts

Showing posts with the label diolch

Diolch GIG - 26 Mawrth 2020

Ma hi'n itha amlwg erbyn hyn bod pob diwrnod yn mynd i lifo i'r nesaf. Felly fi wedi rhoi lan rhifo'r dyddie. A dyw na ddim rili yn helpu! Ma hi'n ddydd Iau, a ma hi dal yn braf, diolch byth. Os wy ddim wedi sôn, wy yn nhŷ mam a dad yn yr Eglwysnewydd. Ma fe er lles fy iechyd meddwl i, a gan bod fi'n gallu. Ma fe'n golygu bod gyda fi gwmni Casi'r ci, sy'n donic dyddiol, os bach yn iapi yn ddiweddar. Os chi'n meddwl nad yw cŵn yn gallu synhwyro beth sy'n mynd mlaen, chi'n rong. Ma hi wedi bod jest bach yn wahanol yn ddiweddar, ac yn sicr bod na rhywbeth gwahanol yn mynd mlaen. Felly y peth pwysig am flogio heno yw i gofio bod ni wedi bod yn cymeradwyo'r GIG heddiw am 8pm. Odd nneges wedi mynd o gwmpas cyfryngau cymdeithasol i annog pobl mas i'r strydoedd os on nhw'n gallu i gymeradwyo a gweiddio diolch i'r GIG. A dyna nethon ni. Odd e'n lyfli ac yn emosiynol iawn. A ma gweld fideos o bobman arall wedi tynnu pawb at ei g...

Diolch

Wel ma'n her i wedi dod i ben (ers dros wthnos bellach), a on i ishe diolch i bawb nath wneud cyfraniad ac atgoffa unrhyw un sydd heb bod dal cyfle i wneud! Wy'n gobeithio gwneud yr her eto flwyddyn nesaf, felly os oes unrhyw un awydd ymuno da fi, allen ni wneud gyda'n gilydd!  Wy wedi codi dros £200 erbyn hyn, beth am drial cyrraedd £250...?! Co'r cyfeiriad rhag ofn https://www.justgiving.com/sionedwyn Diolch to!

Dyddiadur dŵr diwrnod 9

Bron a bod na! Mond un dwrnod cyfan arall ar ôl, wedyn dydd Gwener am 5pm gaf i ifed be fynna i! (Sef gwin gyda raclette iym). Wy wedi llwyddo codi dros £200 rhwng beth fydda i'n cyfrannu fel y running total a chyfraniadau hael iawn fy nghyfeillion a nheulu.  Ma hi yn wir wedi mynd yn haws wrth i'r amser fynd yn ei flan, a wy di dysgu bo fi yn ddigon hapus i fynd mas am bryd o fwyd heb yfed (odd dydd Sul yn brawf da o na); ma gormod o ddŵr yn gallu rhoi pen tost; weithie sdim ots os nagych chi'n ifed, ma bwyd yn gallu bod yn ddrud heb win! Dyw'r dŵr i hunan heb fod yn ddiflas, sef beth on i'n poeni fydde'n digwydd, ond ma na adege lle wy wirioneddol wedi moyn gwydred o win neu gin. Erbyn hyn ma'r cravings di newid i rai am ddishgled neis o de! Bron â chael yn nhemtio i barhau â'r her, ond ma'n siŵr na wnaf i. Ond fe fydda i'n sicr yn gwybod y galla i ymwrthod heb alcohol neu gaffine am gyfnod os odw i ishe. Felly onwards and upwards, dau ddwrnod ...

Diolch?

Wy ddim yn gwbod pryd ddechreuodd hyn ond wy'n dueddol o weud 'diolch' wrth bobl, yn hytrach na 'thank you'. Sai'n neud e i fod yn boen a fi'n cynryd bod pobl yn gwybod bo fi yn diolch iddyn nhw, er falle nad ŷn nhw'n siarad Cymraeg. Wy'n llythrennol yn gwbeud drw'r amser; os odw i'n prynu rhwbeth neu os os rhwyun yn dal y drws ar agor i fi. Nawr fi di dechre meddwl withe, odi pobl yn meddwl bo fi'n bod yn rŵd neu'n od? Neu os da bobl yng Nghymru ddigon o grap ar y Gymrag i wbod mai 'diolch' yw 'thank you'? Os na rywun arall yn neud hyn? A beth y'ch chi'n meddwl…rŵd/od neu dim problem o gwbl?