Posts

Showing posts with the label Smithsonian Folklife Festival of Wales

Diwrnod numero dos!

Heb dreulio cymaint o amser yn yr wyl heddi, dim ond popo mewn am bwyti awr. Wedi bod i amryw amgueddfeydd y Smithsonian sydd o gwmpas y mall. Amgueddfa Hirshhorn - Celf modern, arddangosfa lawr llawr am y corff a distortion y corff mewn celf. Odd na lun grêt o Andy Warhol paent olew ar felfed. Yr Ardd Gerfluniau - lot o gerflunie o Ewrop a Gogledd Ameria er 1880. Odd na gerflun gan Rodin The Burghlers of Calais na odd yn rili ddiddorol. Odd y tywydd yn hyfryd ac felly'n rili neis crwydro'r ardd. Dillon Ripley Center - Crochenwaith Lowri Davies a chrochenwyr eraill o Gymru ar ddangos, gyda phlaciau yn Saesneg a Chymraeg ar y wal yn adrodd eu hanes! Castell y Smithsonian - yr amgueddfa wreiddiol. Lot o arddangosfeydd bach yn dangos y gwahanol arddangosfeydd sydd wedi bod yn yr amgueddfeydd. Odd na baun gyda'i holl blu a set o lestr odd yn cael eu defnyddio ar y Concorde. Washington Memorial - jest wâc o'i gwmpas, paratoade ar gyfer Independence Day yn mynd mlan. Ma fai...

Washington - Diwrnod cyntaf yr Wyl

I ddechre nai weud peth am y daith lawr. Saith awr a hanner yn y car gan gynnwys sdopio dwywaith. Amser da iawn sen i'n gwed - bwyti 400 milltir. Ffindo'n ni'r ffordd yn hawdd gyda help google maps a GPS! Bwyd a drinc bach yn y bar ar ôl cyrraedd nithwr wedyn gwely i ymlacio cyn heddi!! Odd hi wedi bwrw glaw yn ofnadw nithwr a ry ffordd felly on i'n creosi bysedd y bydde hi'n braf heddi! Un broblem - wy wedi tynnu lot o lunie, ond wy ddim wedi dod â'r cebl sy'n cysylltu'r camera gyda'r laptop, so bydd rhaid i chi aros nes dydd Mawrth cyn i chi weld llunie (dim gwaith dydd Llun achos Independance Day dydd Sadwrn), ond cadwch lygad!! Odd hi'n braf heddi! Yn ferwedig ond ddim yn rhy glos. Nai roi run through o'r dwrnod i chi, achos os af i mewn i ormod o fanylder byddai ma drw'r nos! Odd y lle'n agor am 11am (popeth am ddim gyda llaw sy'n grêt), ond on ni na bwyti 10.30am yn dishgwl ambwyti. Ar ol cerdded ambwyti tam bach netho...

pre DC

Wedi pasio'r prawf ysgrifenedig ar gyfer cael trwydded yrru yn Ohio, hwre. Ond nawr ma rhaid i fi basio'r prawf gyrru (sy'n cynnwys manoevarbility test sy'n edrych yn itha anodd a gweud y gwir!!), a allai drefnu hwna rhywbryd yw'n moyn, ond bydd rhaid i fi neud cyn bo hir er mwyn yswiriant! Wy wedi trial meddwl be wy'n moyn neud yn Washington, gan bo fi di bod o'r blan i weld amryw bethe sdim lot wy'n gallu meddwl amdanyn nhw - ond bydde mynd i'r national gallery ac amgueddfeydd y Smithsonian yn ddiddorol. Hefyd ma na International Spy Museum na - wedi ffansio hwna fyd!!! Gadewch i fi wbod os os da chi unrhyw awgrymiade ar lle i fynd neu beth i weld!! Wrth gwrs, byddai'n ca'l bwyd gyda Baz a Michelle a'r plant un nosweth, diolch i nghysylltiadau gyda'r Blaid..... -------------- Passe the written driving test - woohoo, but now I have to do the driving test (which includes a manoevarability test which I'm not looking forward to!), a...

Gwaith etc

Wel, wy ar yn drydydd diwrnod yn y gwaith a dal heb wneud braidd dim ond darllen lan am hanes yr ardal ac ymchwilio ar y we. Bach o e-bostio a fêsbwcio, a dechre acownt Flickr. Gobeithio'ch bod chi wedi mwynhau rhai o'r llunie wy newydd ychwnaegu ar y postiad blaenorol. Os y'ch chi am weld mwy o lunie - ewch i www.flickr.com/photos/sioden , neu cadwch lygad ar fêsbwc www.facebook.com/sioden !! Wy dal yn ddi-gar, ond gobeithio i'r nefoedd bydd e wedi sortio erbyn fory neu bydda i'n ddi-gar dros y penwythnos hir (hiihii!!). Toyota wy'n cal wy'n credu, a ma nhw fod i ddelifro fe draw i'r Brifysgol, ond ma dal stwff i sortio mas, a ma pobl yn bod yn araf, fel arfer! Gan bo ni'n gwitho 10 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Iau, bydde penwthnos 3 dwirnod yn y fflat yn ddiflas. Er wy'n gwbod bydd Jeanne yn gwahodd fi draw dros y penwthnos - wy'n twmlo braidd felse fi'n dibynnu lot arni ar hyn o bryd (ma hi'n casglu fi a mynd a fi nol o'r g...