Wel wy nol ar ôl prin pump dwrnod yn Efrog newydd, diwrnod o ddreifo bob pen plys bron dwrnod o ddreifo yn mynd a Cerith i'r maes awyr, whiw. DONE. Nes i rili joio. Bydde fe di neud mwy o sens mwn i flogio wrth mod i'n mynd mla, on WRTH GWRS dodd dim amser i neud na, nagodd e?!! Wel os y'ch chi di bod ar Facebook allwch chi weld yn lunie i (ma lot fawr iawn!) a allwch chi ddyfalu beth fuon ni'n neud. Statue of Liberty ac Ynys Elis, Museum of Modern Art, Metropolitan Museum of Art, Museum of Natural History, Central Park (gan gynnwys Strawberry Fields), trip mewn wch rown yr ynys, Guggenheim, Emipre State, Top of the Rock yn y nos (lan y Rockerfeller) yn ogystal â mynd i Times Square sawl gwaith a mynd i weld Avenue Q, odd yn hollol wych a doniol a briliant! So na ni rili, dim lot mwy i'w ddweud. Nethon ni ddefnyddio CityPASS odd yn wych, a wy'n sicr yn ei awgrymu fe i unrhywun sy'n mynd i unrhyw rai o'r llefydd ma nhw'n gweithredu ynddo fe. Ma'...
Posts
Showing posts with the label CityPass