Posts

Showing posts with the label Eisteddfod

Dim byd

Image
Blogiad bach cynta ers sbel, a wy'n gwneud o'n ffôn ar y trên (1645 Paddington i Abertawe os os rhaid chi gal gwbod), felly maddeuwch unrhyw typos plis! Fi'n hynod o ymwybodol nad oes sylwedd mawr i'r blogiade ma, a bod y mwyafrif yn llawn crap sgan fawr o neb ddiddordeb ynddyn nhw. Ond wy'n lico sgwenu nhw. Fi jest yn lico sgwenu rili. A na beth yw blog yn y pen draw. Sgwennu. Dyddiadur. Log o be sy'n mynd mlan yn dy ben di. A ma lot yn mynd mlan a rownd a rownd yn y mhen bach i.  Wy'n siŵr ma nid fi yw'r unig un sy'n cal sgwrs da rhywun, neu'n darllen neu'n gweld rhywbeth a ma fe'n troi a throsi yn y mhen i. A wedyn dipyn i beth ma na rhyw speech ne sgwrs yn dechre hware'i hunan mas yn y mhen. Ac yn aml ma rhaid i fi gal y sgwrs na da rhywun, lleisio'r geirie'n uchel er mwyn cal i gwared nhw. Weithie ma fe am rywbeth positif, a allai ddim cadw'r peth mewn. Weithie ddim, ac mewn achosion felny ma'n gallu bod yn lladdf...

Mwy o Eisteddfota

Lot o Eisteddfota i fi ddoe - a noson dda o gystadlu odd hi hefyd! Y cystadlu yn wych ar bob cystadleuaeth a nes i wir fwynhau!! O feirniadaeth Alun Guy o'r core ieuenctid, on i'n disgwyl mai'r Waun Ddyfal fase'n mynd â hi, ond Ysagol Gerdd Ceredigion ath a hi gyda'r Waun Ddyfal yn ail a Chôr Iau Glanaethwy yn drydydd. Gan bod Ieu ac eraill wy'n nabod yn y Waun Ddyfal on i'n hapus. On i hyd yn oed yn fwy hapus bod Merched y Ddinas wedi ennill y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant yn gynharach yn y diwrnod. Wy wedi cael cyfle i wrando arnyn nhw erbyn hyn a on nhw'n wych whare teg!! Llongyfarchiade hefyd i Meggan Prys ar ennill Medal y Dysgwyr! Ma hi'n dod o Ohio ac odd Jeanne'n i nabod hi'n dda. Ma hi'n briod a boi o'r enw Cynog (fi'n credu, neu falle Cynan) a fe odd un o'r ddau olaf i ddod mas i Rio Grande ar Ysgoloriaeth Evan Davis - sydd nawr wedi'i droi'n Internship, sef beth wy'n neud! Byd bach hyd yn oed tu fas i G...

Eisteddfota

Wedi bod yn gwylio'r Eistedfod drwy'r bore ac yn trydar! Heddi yw'r diwrnod llawna o bethe wy am u gwylio heddi. Ma Gwenllïan a Ieu yn Cystadlu mewn bobo gystdaleuaeth, y Fedal ryddiaith a thlws y cerddor. Dishgwl mlan yn wir! Wedi clwyed stori am daith dad gytre o'r Bala i Gaerdydd nos Lun - bwrw mochyn daear enfawr lawr. Cyn mynd i'r gwaith fore Llun mynd i'r garej i checo rhag ofn bod niwed i'r car - ffili cyrradd y garej achos odd y rheiddiadur yn cwmpo off!!! miloedd o bunne o niwed i'r car yn ôl y sôn! awch. a do, bu farw'r momchyn daear - Dad yn amlwg yn trial dynwared y roadkill sda fi fan hyn!!! Ma'r gwahanol Band Camps dal wrthi'n drymio tu fas i'r ffenestr! Ddim yn swir os wy wedi sôn am hyn o gwbwl a gweud y gwir. Bob wthnos ma na wahanol fandie o wahanol ysgolion ac ardaloedd yr ardal yn dod i aros ar y campws ac i ymarfer. Ma nhw'n aml yn ymarfer tu fas gan i bod hi'n braf - ac ma paw yn gwbod bod ymarfer tu fas yn d...

storm a hanner

Wel ma hi jest abowt yn dechre goleuo ma nawr (hanner dydd!!) ni wedi cal storm mellt a tharane enfawr a odd hi'n dywyll iawn, ond sai'n credu bo ni wedi gweld y gwaetha ohono fe eto rywsut. Ma mwy i ddod erbyn diwedd y prynhawn! Wy wrthi'n wocho sdeddfod yn barod i weld gwobr goffa Daniel Owen, a ma Cerian newydd ennill y ddawns stepio. Gethon ni lythyr ddoe gan foi sydd yn y carchar yn California ac yn dysgu Cymraeg i'w hunan!! Dim syniad pam, ond na ni, so wy wedi gorfod ffindo lot o wahanol wefanne ayb sy'n helpu chi i ddysgu Cymraeg i'ch hunan! Na gyda sda fi weud am nawr - nol at y sdeddfod!

postiad interim!

Image
Wy'n sylweddoli mod i heb flogio o gwbl ers dydd mercher diwethaf, ond na ni, sdim byd lot wedi digwydd!! Wy wrthi'n gwylio seremoni'r coroni ar hyn o byrd a gweud y gwir. Sylweddoli bod Dic o'r Hendre ddim na, treni mowr, goitho fydd e'n well. A gobeitho bydd teilyngdod. Odd y picnic croeso i fi dydd Sul yn hyfryd. Odd bwyti 20 o bobl na a lot gormod o fwyd! Nath y tywydd bara yn braf trw'r pnawn yn lwcus! Nes i neud pice ar y man (diolch i'r awgrym gwreiddiol gan Delyth, a'r rysait gan Mam!), a ethon nhw lawr yn wych! Wy'n mynd i fynd nawr a trial cadw llygad mas i weld os yw Ieu wedi penderfynnu bod yn orseddogyn ar y llwyfan heddi!! A wrth gwrs gweld pwy sy'n cael ei g/choroni!!! hwyl am y tro