Posts

Showing posts with the label Presidents Day

Dewi Sant yn agosau

Image
Penwthnos dwetha blantos on i lan yng Ngholumbus unwaith eto. Ma Lowri druan wedi gorfod gadel OSU am resyme ariannol, ac ma hi erbyn hyn wedi cyrradd gytre (wy'n credu!), ar ôl iddyn nhw ganslo ffleits etc ddydd Llun pan odd hi fod i hedfan! Ta beth, es i lan nos Wener i fynd mas a dathlu tamed bach. Bu lot o joio, a gan bo fi ddim gytre nes bwyti 3am, don i ddim lan mewn digon o amser i wylio'r rygbi fore Sadwrn. damo yn wir. Ond..... ges i'r stori i gyd gan Gwenllïan, a Ieu a Mam!! Diolch i chi gyd! Odd hi'n Presidents Day ddydd llun (dathlu penblwydd Lincoln a Washington), so dim gwaith. Gwaith wedi'i ganslo dydd Mawrth achos yr eira, a gyrhaeddes i'n hwyr axhos yr eira ddydd Mercher. Nath hi'm sdopo bwrw eira dydd Mercher chwaith! Ma'r eira wedi'i glyro oddi ar yr hewlydd erbyn hyn, ond dyw e ddim wedi toddi oddi ar y caeau. Ma dal bron i droedfedd o eira yn y manne lle dyw e ddim wedi toddi to, and it aint getting any better! Ma hi fod i gadw i...