Posts

Showing posts with the label Detroit

Y Daith (English at the bottom)

Image
Wel erbyn hyn wy wedi cyrradd yn saff, ond co hanes y daith i chi..... Dechre trwy hedfan o Gaerdydd am 6am (ar ôl codi am 3.30am) i Amsterdam. Odd da fi ddwyawr yn Amsterdam, a o'n i'n meddwl bydde digon o amser i grwydro o gwmpas, ond wrth gwrs, gan bo fi'n hedfan i America, odd angen checo popeth cyn boardo'r awyren, so dreulies i'r holl amser yn ciwio i fynd ar yr awyren! Odd y flight i Detroit yn hirach na'r arfer yn ôl y sôn (8 awr 20 munud), a nethon ni fwrw turbulence eitha gwael bwyti awr cyn glanio. Wedi glanio yn Detroit ro'dd yn rhaid mynd trwy immigration, a'r rhan gwaetha am hyn odd y ciwio am oesoedd!! Tra'r o'n i'n ciwio daeth na ddyn customs lan ata i i checio'n ffurflenni a thra'i fod e'n checio fe odd e'n holi cwestiyne i fi, a phan wedes i bod na gymdeithas Gymraeg yn Ne Ohio wedodd e "Oh my six year old son loves Fireman Sam in Welsh!", ges i ddim cyfle i holi, ond neis gwbod bod Sam Tân yn lico ...