Posts

Showing posts from October, 2009

ypdêt

Helo na! Wy heb flogio ers wythnos bellach sai'n credu - sori am ny! Dyw e ddim achos mod i wedi bod yn hynod fishi yn ddiweddar, mond bod dim byd lot gyda fi i'w ddweud, achos bod dim lot wedi bod yn mynd mlân! Pnawn dydd Sul odd da ni Cemetery Walk yn Vega Church (chi'n ynganu fe veejee). Ath e'n itha da, odd y tywydd yn wych a digon o bobl di troi lan odd yn grêt. Ma llunie ar Picasa (linc ar y chwith) ac ar facebook, ar dudalen facebook newydd Canolfan Madog . Ewch draw i gefnogi os nag ych chi wedi yn barod!! Beth odd e odd pobl yn gwisgo lan mewn dillad cyfnod (os on nhw'n gallu) a darllen bach o hanes rhywun odd wedi'u calddu yn y fynwent, wrth sefyll ar fedd y person na. Braidd yn sbwci i feddwl amdano fe, ond odd e'n neis, ac yn ddwrnod perffeth ari gyfer e. Ar ôl dod nôl goginies myffins blueberry hyfryd (os wy'n gweud yn 'unan!) a phice ar y mân. Ath y pice ar y mân i'r rhewgell fel bod dim RHAID i fi neud rhai tro nesa ma angen nhw -

Symud Swyddfa part tw

Image
Ni wedi symud mewn i'r Swyddfa newydd nawr - hwre. Gymrodd hi lot o'r dwrnod, ond o leiaf nawr ma swyddfa go iawn da fi, a sdim rhaid mynd lan y stâr hynod anniogel bob bore!!!joio. co ni lun o'r swyddfa newydd

Symud Swyddfa

Image
Ma Canolfan Madog yn Symud i lawr llawr yn adeilad Elizabeth F. Davis. Byddwn ni dal yn meddiannu'r llawr ni arno fe nawr hefyd, ond dim yn ei ddefnyddio ar gyfer swyddfeydd. Ma 'maintenance' ma nawr yn symud y celfi trwm lawr a gobeithio bydd y ffôns wedi cysylltu erbyn diwedd y dydd. Credu'n bod ni'n gobeithio troi un o'r sdafelloedd lan lloft yn ystafell wely er mwyn i bobl sy'n dod i ymweld â'r ganolfna neu'r brifysgol yn gallu aros. M'ar llun yn dangos y before shot yn yn sdafell i ynghanol y mŵf! Ma dwst ymhobman ma bobl a ma'n achosi tishan a pheswch galôr! Hefyd - wele luniau o Cleveland a Cholumbus ar Picasa.

Cleveland a Cholumbus

Wedi bod i Cleveland a Cholumbus penwythnos ma - lot o ddreifo!! Yrres i lan i Cleveland bnawn dydd Gwener - gymrodd hi llai o amser na'r disgwyl, 4 awr a hanner gan gynnwys sdopo am ugen munud i gal bwyd. On i'n mynd i aros gyda Chloë ffrind i Llio o'i chyfnod hi'n Iwerddon, a nes i gwrdda hi pan es i gwrdda Llio yn Columbus mewn priodas mis dwetha. Ma Cleveland yn bert o beth weles i a odd i theulu hi a'i ffrindie'n rili neis fyd. Nos wener ethon ni am gwpwl o ddrincs gyda ffrind i Chloë. Wedyn dydd Sadwrn on ni fod i fynd i weld sights Cleveland ond ethon ni i'r farchnad, cal dishgled o goffi/te a wedyn i weld ffrindie i'r teulu a wedyn dodd dim amser i neud dim arall gan bod ni'n mynd mas am fwyd nos Sadwrn. Ethon ni i'r Great Lakes Brewin Company - cwrw hyfryd ac ymesing. Bwyd neis. Ethon ni am ddrinc ar ol ny wedy gytre. Wedyn lawr a fi i Columbus bore dydd Sul i gasglu Lowri Sion wedyn draw i'r Gymanfa Ganu. nath y ddwy ohono ni rili j

Penwythnos Hir - Bob Evans Farm Festival

Image
Heb flogio ers bron i wythnos. Hanner y rheswm gan bod dim byd newydd wedi digwydd i fod yn onest! Odd Penwythnos hir gyda ni penwythnos hyn gan bod y bob Evans Farm Festival. A dweud y gwir ma hi'n Columbus Day heddiw, sy'n golygu i lot o sefydliadau bod dwrnod off gyda nhw, a beth ma'r Brifysgol wedi gwneud yw symud y dwrnod off i'r dydd Gwener i gyd-fynd da'r wyl. A ma hi hefyd yn Thanksgiving yng Nghanada heddi fyd. Co collage o lunie yn dangos golygfa o'r ŵyl i chi gael rhyw fath o flas ohono fe. Ma mwy o lunie ar Picasa hefyd. Odd yr ŵyl mlaen o'r nawfed tan yr unfed ar ddeg o Hydref. Nath hi bistilllo'r glaw dydd Gwener, odd hi ddim yn neis iawn dydd Sadwrn a wedyn dydd Sul odd hi'n hyfryd. so es i dydd SUl, a gan mod i wedi mynd ar ôl hanner dydd dodd dim angen talu - bargen!! Beth odd na odd lot o stondine gyda LOT o bethe twee iawn da nhw. Rhai stondine gyda pethe rili neis - ond wrth gwrs on i ffili prynu'r pethe odd yn yn neis chos

Welsh Heroes

Heb sôn am hwn, sai'n credu. Ond ma cyn Faculty Fellow canolfan Madog, Benjy Davies yn cal i waith wedi'i arddangos yn y French Art Colony. Y gwaith sy'n cal i arddangos yw'r gwaith wnath e pan odd e'n Faculty Fellow a ma fe'n seiliedig ar y 100 arwr Cymreig yn ôl Culturenet Cymru (ma'u herthygl nhw ar y peth fan hyn - a ma linc o fan na i'r arddangosfa sydd, os nagych chi am ddarllen yr erthygl fan hyn !) Wy'n credu bod y graffigwaith yn rili cŵl a diddorol. Cymrwch bip a phenderfynnwch chi os ych chi'n lico nhw neu bido. Yn hoff rai i yw Grav a Gareth Edwards. Wy newydd fod yn siarad gyda Clay Price - y Cyfarwyddwr Cerdd newydd ma yn Rio Grande. Er fy holl holi o gwmpas, odd neb yn gwybod, neu ddim am weud tho fi - bod côr cymunedol ma yn y brifysgol. Idiots. Ta beth. Nes i ebostio fe yn gweud bo fi ma a licsen i ddechre côr os nagpodd un yn bodoli'n barod a ddath e draw ma i gal chat. Boi hyfryd. Sgwn i fel byddech chi'n disgwyl i r

Criw y Drindod

Co'r esboniad mewn e-bost ddaeth bnawn dydd mawrth am griw y Drindod yn tynnu mas o ddod draw. Ma'n rhaid i fi fod yn hollol onest fan hyn a gweud bo fi yn wirioneddol hollol gytid a wedi siomi na fydd neb yn dod mas. A wy ddim ishe gwneud i neb deimlo'n wael, ond os oes unrhyw rai o'r criw odd yn mynd i ddod yn darllen hwn wedyn wy ishe iddyn nhw wybod pa mor siomedig odw i na fyddwch chi'n dod mas. On i'n dishgwl mlan yn fawr iawn at gael criw o bobl on i'n gwbod bydde'n siarad Cymraeg am un peth, ond am beth arall fydde'n fywiog ac yn llawn hwyl ac y bydden i'n gallu uniaethu gyda nhw. Ta beth - ma gyfel i fi ffindo projest neu greu project yn hunan yn yr ardal, a nid dim ond helpu mas gyda'r criw ayb. Achos hyn hefyd - dyw'n Nhymor y Gwanwyn i ddim mor strict. So os os unrhywun am ddod mas neu os ych chi'n dod mas o gwbl ma, gadewch i fi wybod a wy'n siŵr allai drefnu i ddod i gwrdda chi! Gadewch i fi wybod! A darllennwch yr e