Diwrnod 1 - surdoes, cwis a rhith-dafarn

Diwrnod 1, done. Dim gormod o drafferth personol i weithio adref. Fi wedi gwneud yn y gorffennol am ddydd neu ddau. Ond gan bod hwn am fod yn gyfnod itha estyniedig, nes i benderfynnu bod *bach* yn fwy trefnus a setio rhyw fath o swyddfa lan wrth y ford fwyta. A gwneud iddo edrych a theimlo'n neis, sy wastad yn help i weithio. Tra bod eraill wedi bod yn sdocio la ar bapur tŷ bach a phasta, fues i'n sdocio lan ar gennin pedr (a gwin).

Wedes i bod fi ddim yn mynd i roi ffeithie fan hyn, ond wy'n mynd i gynnwys rhai. Cyhoeddwyd bod ysgolion Cymru i gyd am gau dydd Gwener heddi. Ac wedyn na fyddai arholiadau TGAU na lefel A yn mynd i'w cynnal leni. Yn bersonol wy'n credu bod hyn yn dangos pa mor difrifol ma pobl yn wirioneddol meddwl gall hyn fynd. Os felly pam aros nes nawr i ganslo pethe...? Pethe eraill wedi eu canslo heddi - Tafwyl, gŵyl fach y Fro a Glastonbur (mewn trefn pwysigrwydd), a thunnell o bethau eraill ma'n siŵr.

Wedi treulio lot o'r diwrnod yn trial ffigro mas shwt i wneud yn siŵr bod ne yn mynd i fod yn cael eu gadel mas, gan gynnwys trial setio rhith-dafarn lan, creu ma Skype yw'r ateb.... Y cyntaf o'r rhith ddigwyddiadau oedd cwis, diolch i mr Geraint Chinnock. Collwyd 💁😢

Y side project cyntaf (o nifer, fi'n siŵr) yw starter surdoes. Dyma fe heddi - dim i'w adrodd

Jar gwydr gyda chymysgedd surdoes beige ynddo, tag yn darllen surdoes 18.03.2020


Amser perffaith i ddechre fe, gan y byddai'n gall ei fwydo fe (neu hi...?) bob dydd heb drafferth. Angen enw arno ne arni nawr. Dewch nôl  glywed hanes y bwydo fory.

Golchwch ych dwylo a gofalwch am yh gilydd (o bell).

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw