Am faint neiff hyn bara?

Heb flogio ers sbelen fach nawr, Oedd e'n teimlo braidd yn od sgwennu jest er mwyn sgwennu. Odd teimlo bach fel dyddiadur, a sneb rili ishe darllen dyddiadur rhywun arall na?

Wel erbyn hyn ne wedi bod ar lockdwn ers dros dair wythnos, sy'n golygu mod i wedi bod yn byw yn y cartws da mam a dad ers dros dair wythnos..... Ma tair wythnos arall o leiaf gyda ni i fynd fel hyn, a siwr o fod mai fan hyn fydda i. Wy'n teimlo'n lwcus iawn bod cwmni da fi, a ma mam a dad yn gweud bod nhw'n hapus bo fi ma... am nawr!

Un peth wy'n credu sy'n cadw ni'n tri i fynd, yw bwyd a byta. Ni'n byta pryd o fwyd deche bob nos, a hyd yn hyn, heb rili gael yr un peth fwy nag un noson.

Peth arall sy'n cadw fi fynd yw cadw lan gyda ffrindie, a gyda'r corau. Rhaid i fi fod yn hollol onest, wy'n gweld ishe canu yn fawr iawn. Fi'n canu i'n hunan pan wy'n gallu, ond does dim i guro cydganu mewn côr. Fe wnaeth Côr CF1 baratoi perfformiad rhithiol i un o'n hoff ganueon i berfformio, Baba Yetu, sef gweddi'r arglwydd mewn Swahili. Odd e'n lot o hwyl, dyma obeithio am fwy o hyn yn y dyfodol.

Mae'r holl beth ma'n mynd i bara am sbelen eithaf hir. Felly mae'n hen bryd i rhywun ddyfeisio ffordd i gôr allu ymarfer o bellter dros fideo-gynadledda. Get working gwmniau.

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw