Coginio

Wy wedi sôn gwpwl o weithie mai un o'r pethe sy'n cadw fi i fynd fwya drwy'r cyfnod ma yw coginio. Wy wastad wedi mwynhau coginio, fel arer neud ryseitiau lan and go with the flow. Wy hefyd wrth yn fodd gyda phobi, ond ma hwnna wedi bod yn llawer llai llwyddianus y gyffredinol, Ma hyn y bennaf achos bod fi ddim rli yn precise iawn. Pan wy'n coginio, ma fe'n bach o hwn a phinsied o'r llall, dash o rhywbeth a llond llaw o hwnna.

Er gwybodaeth i ddarllenwyr y dyfodol pell, un o'r pethau sydd wedi bod yn fwyaf prin yn y siope yn ystod y cyfnod od ofnadwy ma, yw blawd a burum. Odd itha peth burum da fi cyn dechre, ond dim lot o flawd, ac yn sicr dim lot o flawd bara. Ar ôl chwilio a chwalu mhobman am flawd bara (os fi'n onest, sai wedi gweld blawd yn y siope ers mis), daeth Ebay i'r fei. Ffindies i 16kg o flawd bara ar werth, felly odd rhaid prynnu. Fi'n dognu fe mas i'w werth i ffrindie, os oes pobl ishe! Ond heblaw ny, fe wna i'n sicr ei ddefnyddio fe i gyd, fi'n benderfynnol. A thrwy hynny, fi'n benderfynnol o wella'n sgilie pobi. Yn benodol bara surdoes. 

Sonies i ar ddechre'r blog mod i wedi dechrau starter surdoes. Ma fe'n dal i fynd, ond dim ond dwy dorth sydd wedi'i wneud hyd yn hyn. Odd y bara yn ddigon ffein, ond dodd e ddim yr ansawdd gore. Odd y crwstyn yn llawer yn rhy drwchus a chrspllyd, ac fe gollodd e'i siâp yn ddifrifol. Felly angen gweithio ar y sgiliau na!

Erbyn hyn wy wedi gwaredu ar dri chwarter y starter. Ma fe wedi mynd i'r pentwr o sdwff fi'n defnyddio i wneud pancos, blini neu crumpets. Ma'r gweddill wedi mynd i ddechre'r starter newydd. Ma fe wedi ei ddechre erbyn hyn ers tua deuddeg awr. Felly am nawr, a work in progress, a cawn weld mewn cwta wthnos!

Fe fydda i'n postio cynnydd y surdoes ar fy instagram pan fydd yr amser yn dod! Fi wedi bod bach y iwsles hyd yn hyn, ond ma llunie da fi o bron pob pryd yn y lockdown hyd yn hyn, felly fe fydd e mas na rywbryd!

tan tro nesa......

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw