Back to the surdough

SO!! Ma'r starter yn dod yn ei flaen yn rili dda erbyn hyn. Wedi cael ei drydydd bwydad heddi. Un arall for a drennydd, ac fe fydd e'n barod i bobi torth neu ddwy arall gobeithio!! Ar ôl methu'r tro cynta (a'r troeon eraill wy di trial yn y gorffennol), wyn gobeithio wneiff hwn weithio. Gan gofio wrth gwrs mai gwreiddyn y starter yma yw'r starter ddechreuais i ddechre'r lockdown, so dyw e ddim yn hollol newydd!

Fi wedi bod yn gwrando ar lot o bodcasts ac ati'n ddiweddar, ac felly on i'n meddwl falle y basen i'n rhoi chydig o argymhellion os oes na bobl ishe. Er gwybodaeth yr ap wy'n ddefnyddio ar gyfer podcasts yw overcast. Y peth wy'n lico fwyaf amdano fe yw bod modd creu 'playlists' o bodcasts. Felly bob tro mae na rifyn newydd yn dod mas, mae'n mynd i ddiwedd y playlist o bodcasts. Felly os wyt ti'n gwrando ar nifer o bodcasts gwahanol, mae modd cadw i wrando ar y llif heb fyd o bodcast i bodcast. Yn ogystal, un person sy'n rhedeg overcast i gyd, sy'n ffab y ei hun, a ma'r look and feel y gret (ar iphone ta beth).

Nai ddechre gyda podcast cyffredinol, ond un sydd wedi newid eithaf lot dros y cyfnod ma, sef the daily, gan the new york times. Ma fe'n eithar USA-centric, ond ma ddim cant y cant. Mae cymaitn o waith ymchwil yn mynd i mewn i rai o'u straeon nhw, ma fe'n wych. Ewch i danysgrifio, a dechre o nawr, neu ewch y ôl i wrando ar rifynnau'r gorffennol. Me na benodau gwych am helynt Harvey Weinstein a hefyd sy'n edrych ar faterion o safbwynt plant, gan gael plant i holi cwestiynnau ac arwian y drafodaeth.

Mae hi'n hwyrhau, felly nos da am nawr. Ddoi nôl a mwy o argymhellion cyn bo hir. sda.

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw