Prynnu Tŷ

Ma'n chwar a finne (fi'n siŵr bo chi'n ei chofio i o anturiaethau llianoni), wedi penderfynnu prynnu tŷ gyda'n gilydd. Ni wedi ffeindio un ac mae'r cynnig arno fe wedi'i dderbyn. Y cwbl sy'n rhaid i ni wneud nawr yw aros i bopeth fynd drwodd.

Ma hwna yn swnio'n ddiflas iawn i bawba arall (ma fe yn spos) ond on i'n meddwl sen i'n rhannu'r wybodaeth ma gyda chi gyda r ffurf blogiad bach, gan nad ydw i wedi blogio ers cyhyd.

Gan y bydd y ddwy ohonom ni'n byw da'n gilydd beth bynnag sy'n digwydd, mae e hefyd yn ygfel i'ch rhybuddio chi efallai y daw win blog yn ôl i fodolaeth. Anturiaethau dwy chwaer yn troial cydfyw yng Ngrangetown. (os chi'n byw yn y cyffinie, wotshwch mâs!).

Ynghanol sgwennu'r postiad ma, wy newydd fynd yn ôl a darllen dros ein blog ni - yn benodol Cwôts y dydd a chân y dydd. Ges i igl fach! ta beth, na ddigon o ddiflastod am nawr.

Comments

Unknown said…
Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?

Cofion,
Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
CorpwsCymraeg@gmail.com

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw