Dim byd
Blogiad bach cynta ers sbel, a wy'n gwneud o'n ffôn ar y trên (1645 Paddington i Abertawe os os rhaid chi gal gwbod), felly maddeuwch unrhyw typos plis! Fi'n hynod o ymwybodol nad oes sylwedd mawr i'r blogiade ma, a bod y mwyafrif yn llawn crap sgan fawr o neb ddiddordeb ynddyn nhw. Ond wy'n lico sgwenu nhw. Fi jest yn lico sgwenu rili. A na beth yw blog yn y pen draw. Sgwennu. Dyddiadur. Log o be sy'n mynd mlan yn dy ben di. A ma lot yn mynd mlan a rownd a rownd yn y mhen bach i. Wy'n siŵr ma nid fi yw'r unig un sy'n cal sgwrs da rhywun, neu'n darllen neu'n gweld rhywbeth a ma fe'n troi a throsi yn y mhen i. A wedyn dipyn i beth ma na rhyw speech ne sgwrs yn dechre hware'i hunan mas yn y mhen. Ac yn aml ma rhaid i fi gal y sgwrs na da rhywun, lleisio'r geirie'n uchel er mwyn cal i gwared nhw. Weithie ma fe am rywbeth positif, a allai ddim cadw'r peth mewn. Weithie ddim, ac mewn achosion felny ma'n gallu bod yn lladdf...