Un bach cloi

Wel ma hi’n ddydd Gwener, gŵyl y banc cynnar mis Mai. Ma hi hefyd yn VE day. Sim amser da fi ymhelaethu ar fy marn ar hwnna am nawr. Safe to say, nad oedd bynting o unrhyw fath o gwmpas y tŷ heddi. Falle nai flogio amdano rhywbryd, dim nawr!

Nawr bod Mr Drakeford (ein prif weinidog ni ma yng Nghymru rhag ofn ei fod wedi llithro yn angof yng Nghymru’r dyfodol) wedi cyhoeddi y bydd Cymru ar dair wthnos arall o lockdown gyda rhai amrywiade posibl i gynghorau lleol eu rhoi mewn lle. Grêt. Y broblem fawr yw cael yr IDIOTS i wrando ac i aros fflipin gytre.

Twmlo bach yn feddylgar-ddiolchgar pnawn ma. Na beth sy’n dod o fod mewn isolation da dy rieni a dechre yfed amser cinio spos. Sai wedi sôn, ond ma nith fach newydd sbon danlli da fi. Gath hi ei geni ar y pedwerydd ar hugain o Ebrill. Ma hi’n byw da’i rhieni a’n nith fach gorjys arall i yn Llangynnwr. Ac yn amlwg felly chaf i ddim ei gweld hi na rhoi cwtsh iddi am y tro. Ma fe’n anodd. Ac yn rhwystredig. Ond ma pawb yn yr un twll, a ma na reswm da am y twll. Ma fe’n ein cadw ni gyd yn saff.

Felly am nawr. Diolch am y twll. Diolch am gael bod mor ffodus â chael lle deche i fyw a choginio ynddo (does dim rheswm i gwyno go iawn). Diolch am ein hiechyd. A diolch diolch diolch i’n harwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n ein cadw ni’n fyw ac iach os ŷn ni’n gwrando ar y cyfarwyddiade ai peidio. Arwyr.


Comments

Popular posts from this blog

Gwybodaeth Dechnolegol

prawf gyrru

mis Mawrth yn barod!