Shambles llwyr

Wel ma fe braidd yn crap bo fi heb flogio ers bron i fis, ond wy'n ymddiheurio'n fawr iawn i'r rheiny ohonoch chi sydd wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am y postiad nesa! (ma'r sarcasm yn diferu'n fanna, chi'n gweld e?!)

Ta beth, odd bod gytre dros yn dolig yn hollol crap. A on i byth yn credu weden i na. Pidwch a nghamddeall i, nes i rili RILI joio gweld pawb ond odd na sawl cwmwl du dros y cyfan.

Nath popeth ddechre, os wy'n cofio'n iawn, pan fu rhaid i fi dalu $50 am jeco'n ail fag mewn, er bo fi'n sicr bod dim rhaid i fi dalu (troi mas dodd dim rhaid i fi dalu, ond ches i byth o'r arian nol, ond NES i gael 4 voucher diod gwerth $7 i'w gwario ar yr awyren odd yn oce da fi!!). Wedyn prynu 3 potelaid o alcohol yn JFK (on i'n hedfan Cincinnati, JFK, Amsterdam, Caerdydd), mewn bag wedi'i selio gan feddwl y bydde popeth yn iawn i fynd a nhw'r holl ffordd trwyddo i Gaerdydd. Wrth fynd i'r gât yn Amsterdam - na don i ddim yn cal mynd â nhw ar yr awyren am ryw reswm don i ddim yn deall, rhywbeth i'w wneud gyda rheole America a'r UE, dim syniad. Ta beth, awgrymwyd mod i'n checo nhw miwn, so mas a fi, ffindo box, mynd i cal y box wedi shrinkwrappo a mynd i jeco nhw miwn. Wel bydd rhaid bo fi di talu 200Ewro i'w checo nhw mewn gan bo dau fag da fi wedi checo mewn yn barod. So nol i'r gât (odd digon o amser da fi), gan obitho bydden nhw ddim yn sylwi'r ail dro rownd, ond NA, i'r bin ethon nhw. GYTID.

Ta beth dodd hyn ddim yn ddim byd rili o'i gymharu a chyrradd gytre a aros i'n fagie i gyrradd a mond un o'r ddau yn troi lan. Wedodd y fenyw wrth y ddesg bydde fe'n cal i ddelifro'r dwrnod wedyn (sef noswyl Nadolig), llenwes i rwbeth mewn a bant a fi, i gwrdda Dad a Gwenllïan. Dim ond i bethe fynd hyd yn oed yn wâth. Newyddion drwg a thrist, odd mamgu wedi marw nos Lun. Mam Mam. Sioc enfawr achos odd hi mor iach a bywiog a ddim yn ymddwyn nac yn ymddangos yn 81 o GWBL! Ond beth sy'n od (a wy'n GWBOD bydd rhai o chi'n meddwl bod hyn yn hollol wallgof), yw, on i'n gwbod. Nos Sul, on i wedi twmlo rhwbeth a on i'n gwbod bod rhwbeth yn bod a bod rhwbeth yn yn fywyd i wedi newid, ond don i ddim yn gwbod beth. Digwyddod yr un peth pan fu farw dadcu (Dad Dad), ond odd e wedi bod yn yr ysbyty ers bron i flywddyn so odd e ddim yn gyment o sioc.

Felly o'r pwynt na mlân, odd y Nadolig yn beth hollol wahanol yn 2009. Ni wastad yn paratoi popeth allwn ni ar gyfer y cino mawr drw'r dydd ar noswyl Nadolig. Mam a fi sy di neud ers sawl blwddyn nawr. Leni, Gwenllïan a fi odd. Nethon ni bopeth, a on i'n browd iawn o Gwenll, gan nad yw hi wastad yn hyderus iawn wrth gwcan, ond nath hi job wych. Odd y ty'n llawn ymwelwyr drw'r dydd yn dod i weld Mam, so hyd yn od pe bai hi wedi bod lan i gwcan cyment bydde'i ddim wedi gallu ta beth.

So wedyn dath dydd dolig ac fe ath e, a dyw'r blogiad ma ddim felse fe'n addas i drafod gwychder Gavin and Stacey a Dr Who, fe flogia i to cyn hir amdanyn nhw. Ac wy'n siŵr bo chi di sylwi mod i heb weud bo fi wedi derbyn yn fag i o faes awyr Caerdydd noswyl Nadolig, wel ma na achos nes i ddim i dderbyn e. I dorri stori hir yn fyr os gwedws y Sais, fues i'n ffono a ffono a ffono, heb gal sens wrth neb. Odd rhaid i fi fynd i brynu dillad angladd, gan gynnwys cot newydd gan bod y nghot i yn y bag ath ar goll. Nos Calan yn cyrradd, yr angladd am 11:30am, dal dim bag. Odd hi'n angladd dda fel ma nhw'n mynd, a lot o bobl chware teg wedi dod.

Mwy o aros aros aros am y bag. Dim bag. Bygwth cyfreithwyr, gweud mod i'n mynd dod nol i Ohio ar 11 Ionawr. dal dim bag. On ni'n mynd lan i Landrindod am noson ar 9 Ionawr (fy mhenblwydd i'r rheiny ohonoch chi odd ddim yn gwbod). A bydden ni wedi gadel am 8:45am er mwyn mynd â stwff Gwenllïan i Aber cyn mynd lawr i Landrindod. Ond buon ni'n siarad gyda teulu odd yn cwrdda ni yn Llandrindod, odd yn dod o Aber, ac odd lle yn y car da nhw i fynd â stwff Gwenllïan o Landrindod i Aber ar y dydd Sul. So odd dim rhaid i ni adel mor gynnar. WEL, os buodd lwc eriod. Chio'n gweld petai ni'n mynd â Gwenllïan lan i Aber bydden ni wedi gadel cyn 8:55am, sef pan gyrhaeddodd y bag y drws! On i mwy neu lai wedi rhoi lan erbyn ny. AM anrheg penblwydd!

Joiwyd yn Llandrindod - select few yn byta ac ifed wedyn yn y pwll am oleiaf 2 awr, wedyn ifed a byta a ifed a Articulate a canu ac ifed a Articulate ac ifed a chysgu. Yn syniad i o hwyl!

So dath y bag nol da fi i Ohio a chyrraedd yn saff gan gynnwys y bŵts eira a'r bŵts sgïo! O ie, wy'n mynd i sgïo ym mis Mawrth!

So na ddiwedd ar flwyddyn, odd ddim y flwyddyn ore os wy'n edrych yn ôl arni. Sawl marwolaeth, damwen Cerith (gath e'i fwrw lawr gan fotorbeic, ma fe'n oce nawr tho), apendicsis yn byrsto, colli bags, gweld ishe teulu a ffrindie. Wy'n GWBOD bydd 2010 yn flwyddyn lot gwell.

Comments

LlioLlio said…
w bendant! ma 2010 i am fod yn ffabiwlys!! wanna join me?!!
Cerith said…
I'm there Llio! 2010 all ddy wei! x

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw