Cinio Gwyl Ddewi WSCO
Wel ma hi’n ddydd Sul wy newydd fod yn gwylio’r 50km men’s Cross Country Classic, exciting stwff!! A wy nawr ar yn ffordd i Zumba nawr, bach o ymarfer corff ar ô gwylio y bobl mwyaf ffit yn y byd siŵr o fod!! Ta beth, ddoe on i yng nghinio Gŵyl Ddewi Cymdeithas Gymraeg Canolbarth Ohio (WSCO). On i’n gwneud dwy seminar, un ar y Mabinogi ac un ar Hanes Cymru. Odd y Seminar cyntaf am 9.30am, a fel chi’n siŵr bo chi’n gwbod ar ôl yn hanesion i o deithio lan a nol o Columbus nifer fowr o withe, ma hi’n cymryd bwyti ddwy awr i gyrradd lan. So es lan nos Wener ar ôl y gêm hynod HYNOD o gyffrous. Wel odd hwna’n bach o gamgymeriad (er, odd rhywun wedi gadel yn gynt yn y dydd ac ar ôl i fi siarad da nhw Dydd Sadwrn odd cyflwr yr hewl yn wael iddyn nhw fyd, so dylsen nhw fod wedi gweud wrthai am adel yn gynt, yn hytrach na thecstio am 5:30 i weud bod yr hewl yn wael, ac erbyn ny on i ar yn ffordd ac wedi dechre gweld yr hewl yn mynd yn wath). Ta beth, dim ond tua 40 munud yn ychwanegol gymrodd...