rhwng dau wylie!
Os ych chi wedi bod yn dal y'ch anadl yn aros i fi flogio ar ôl dod nol o Sgïo ac yn poeni mod i heb wneud rol dychwelyd ac yn meddwl "o na ma hi wedi cal niwed mowr"....Worry no more ffrinidiau, wy wedi cyrradd nol yn saff! A hynny heb gwympo unwaith (sai'n siŵr shwd nes i fanijo na, ond na ni!). Nai ddechre da'r gwesty - Stowe Mountain Lodge . (Llun ohono o'r tu fas wedi'i oleuo). Cystal, os nad gwell na'r wefan. Bar a bwyty hyfryd (os braidd yn ddrud), diodydd blasus dros ben - cwrws lleol hyfryd a choctêls amrywiol a blasus iawn. Bwyd hyfryd bob noson, ta ble on ni, yn enwedig Lamb Gnocci y noson gyntaf ym mwyty Solstice yn y Gwesty, a Veal y noson olaf yn y Cottage, jest ar bwys y gwesty. Digon am y bwyd, at y sgïo. Wel odd e'n real eira'r gwanwyn. Lot o slwsh, twym i sgïo a sawl sawl sawl cawod o law yn anffodus. Wedi gwario LOT o arian ar basys ar gyfer y liffts (mwy na warion ni'n heiro sgïs) am 6 dwrnod, nethon ni sgïo 5 dwrnod. N...