LLWYDDIANT!

Wel, odd y surdoes yn llwyddiant ysgubol! Odd e'n lot fwy involved na'r tro diwethaf. Ddechreues i fe nos Wener, a'i bobi fe bore Sul! Ond jiw odd e werth e, ac mewn gwirionedd, doedd dim angen lot o amser yn actiwali gwneud unrhywbeth, ond bod angen plygu'r toes am tua munud bob tri chwarter awr am rhwng 3 a 4 awr. Ond dyma'r canlyniad. Ma'r dorth yn edrych braidd yn drist, ond odd hi'n fflip o dorth! Dodd hi ddim yn ofnadwy o sur, fel petai, felly ddim y blas surdoes traddodiadol. Odd hi'n blasu fel torth wen arferol, ond gyda gwead toes surdoes!

chi'n llu gweld y wyneb yn y dorth?!


y cross-cut hollbwysig - on i'n bles iawn da hwn!

ac wrth gwrs, sdim lot gwell na bara menyn a jam cwrens duon - lysh.

So yn dilyn mlaen o mhostiad diwethaf i, wy am argymell podcast arall. Olive Magazine yw'r podcast - podcast am goginio a bwyd ac ati. Ma fe'r math o beth chi'n gallu jest gwrando arno fe yn y cefndir, neu ddim! Digywdd bod y bennod olaf ond un (196) oedd y bennod am bopi surdoes! Felly ar ôl gwrando, es i i sortio'n starter mas, ac wedyn i bobi'r dorth. Mae'r cyfarwyddiadau llawn hefyd ar y wefan a rhain wnes i ddilyn. Basen i'n sicr yn gwrando ar y podcast yn gyntaf (pennod 196) ac wedyn mynd ati i wneud starter ac wedyn torth. Er gwybodaeth, fe wnes i ddefnyddio blawd gwyn i gyd, a dim spelt fel sydd yn y rysait, gan nad odd spelt da fi.

Cyngor pennaf awadur y rysait yw i ddefnyddio'r un rysait i wneud yr un torth drosodd a thro, i ddod i arfer gyda'r dechneg ac i ddeall beth allwch ac beth na allwch chi newid. Wy'n credu bod hyn yn gyngor da a defnyddiol iawn ar gyfer crefft fel pobi. A dyna wy am wneud hefyd. Felly byddwch yn barod am fwy o dyrth surdoes!!

Oes tips  gyda chi, neu odych chi wedi ffeindio rysait sy'n rili siwtio chi?

Comments

Popular posts from this blog

Eitemau wedi'u rhoi gan Dr Robert Burns. Items Donated by Dr Robert Burns

lefel 4 = lockdown

Dolig dw dw dw